Llywodraeth yn ennill pleidlais a fydd yn arwain at doriadau tanwydd gaeaf i filiynau
Llywodraeth yn ennill pleidlais a fydd yn arwain at doriadau tanwydd gaeaf i filiynau
Mae Llywodraeth y DU wedi ennill pleidlais a fydd yn arwain at dorri taliadau tanwydd gaeaf i filiynau o bensiynwyr o Gymru a Lloegr.
Yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn dydd Mawrth, fe wnaeth Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn cynnig gan y Ceidwadwyr i rwystro cynlluniau’r llywodraeth i dynnu’r taliadau yn ôl, “o achos cyflwr economaidd y wlad”.
Pleidleisiodd 348 o aelodau yn erbyn y cynnig, gyda 228, gan gynnwys rhai aelodau o feinciau cefn y blaid Lafur, yn pleidleisio o blaid ymgais yr wrthblaid i wrthwynebu cynlluniau Syr Keir Starmer.
Mae'r newidiadau yn golygu na fydd dros 10 miliwn o bensiynwyr yn derbyn taliadau oedd rhwng £200 a £300 y flwyddyn.
Dim ond pobl sydd ar incwm isel ac yn derbyn rhai budd-daliadau fydd bellach yn cael y taliadau.
Daw wedi trafodaeth danllyd yn y siambr, lle dywedodd yr AS Ceidwadol Esther McVey nad oedd y Llywodraeth “ar yr un dudalen â’r cyhoedd.”
Wrth ymateb, fe wnaeth yr AS Anna Dixon ddweud mai oherwydd diffyg gwaddol economaidd gan y Ceidwadwyr, roedd yn rhaid i’r llywodraeth newydd wneud y toriadau.
Cafodd polisi’r llywodraeth ei feirniadu gan ddau o'r prif undebau llafur ddydd Llun, gydag Unite a Public and Commercial Services Union (PCS) yn dweud bod angen ei ail hystyried, tra bod Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) hefyd wedi mynegi pryderon.