Llun o Andrew Mountbatten-Windsor ymhlith y lluniau diweddaraf o ystad Epstein
Mae llun o Andrew Mountbatten-Windsor ymhlith y lluniau diweddaraf i gael eu rhyddhau o ystad y pedoffeil Jeffrey Epstein.
Cafodd bron i 100 o luniau eu rhannu gan y Democratiaid ar Bwyllgor Goruchwylio Tŷ’r Unol Daleithiau ddydd Gwener.
Wedi eu cynnwys roedd llun o Mr Mountbatten-Windsor yn sefyll wrth ymyl sylfaenydd Microsoft, Bill Gates.
Roedd yna hefyd lun o sylfaenydd Virgin Group, Syr Richard Branson, ar draeth gydag Epstein a dyn arall.
Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, hefyd wedi ymddangos yn y casgliad diweddaraf o luniau.
Nid yw'r pwyllgor wedi darparu unrhyw gyd-destun ar gyfer unrhyw un o'r lluniau.
Mae Mr Mountbatten-Windsor wedi bod yn y penawdau dros y misoedd diwethaf oherwydd ei gysylltiad gydag Epstein, gyda'r Brenin Charles yn cymryd teitl 'tywysog' ac arddull 'Ei Uchelder Brenhinol' ei frawd oddi arno'n ffurfiol ym mis Tachwedd.
Mae'r cyn-ddug wedi wynebu honiadau ers blynyddoedd lawer ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar Virginia Giuffre yn ei harddegau ar ôl iddi gael ei masnachu gan Epstein. Mae Mr Mountbatten Windsor yn gwadu'r cyhuddiadau yma'n gryf.
Fe wnaeth roi'r gorau i'w ddyletswyddau brenhinol yn 2019 ar ôl ei gyfweliad ar raglen Newsnight.
Ond mae hunangofiant Ms Giuffre, a gafodd ei gyhoeddi yn dilyn ei marwolaeth eleni, wedi dod â ffocws newydd arno'n ddiweddar.
Mae hynny ynghyd â'r dogfennau sydd wedi cael eu rhyddhau o ystad Epstein gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau, ac mae gwleidyddion y wlad wedi beirniadu'r cyn-dywysog am ei "dawelwch" ar ôl iddo fethu dyddiad cau i ymateb i'w cais am gyfweliad am Epstein.
Mae honiadau am Syr Richard hefyd wedi eu cysylltu gydag Epstein yn y gorffennol.
Mae cynrychiolwyr Mr Mountbatten-Windsor a Syr Richard wedi cael cais am ymateb.
Cafwyd hyd i Epstein yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, Efrog Newydd, ym mis Awst 2019.
Bu farw o hunanladdiad.

