Galw am gynnig cyffur £28 yng Nghymru i drin salwch 'ofnadwy' yn ystod beichiogrwydd

ITV Cymru
Rhian Pope-Flood
Rhian Pope-Flood

Mae doctor wedi galw am sicrhau bod meddyginiaeth £28 sy’n trin salwch difrifol yn ystod beichiogrwydd ar gael yn fwy eang yng Nghymru ar ôl gorfod trefnu erthyliadau menywod sy’n dioddef o’r cyflwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gan fyrddau iechyd yr hawl i gynnig Xonvea, yr unig feddyginiaeth drwyddedig i atal y teimlad o salwch difrifol yn ystod beichiogrwydd, mewn “achosion eithriadol lle mae triniaethau eraill wedi methu”.

Ond mae yna alwadau arnyn nhw i osod Xonvea ar restr o feddyginiaethau sydd ar gael ar bresgripsiwn.

Dywedodd Dr Georgina Forbes, doctor arbenigol yng Ngwent, ei bod hi wedi trefnu dau erthyliad o fewn wythnos i fenywod sy’n dioddef o hyperemesis gravidarum (HG).

Mae’r clefyd, sy’n effeithio ar tua 3% o bob beichiogrwydd, yn achosi cyfog a chwydu eithafol a pharhaus.

“Roedd y ddau feichiogrwydd wedi’u cynllunio ac roedden nhw eisiau cadw’r babanod,” ysgrifennodd yn ystod sesiwn Pwyllgor y Senedd.

“Cafodd y ddwy fynd i’r ysbyty nifer o weithiau ac roedden nhw ar driniaethau meddygol eraill nad oeddent yn rhoi digon o ryddhad.

“Er mwyn eu hiechyd corfforol a meddyliol, roeddent yn teimlo mai eu hunig opsiwn oedd terfynu eu beichiogrwydd er eu bod nhw eisiau cadw’r babanod – a hynny wedi cael effaith bellach ar eu lles.”

Dywedodd Dr Forbes, sy’n cadeirio pwyllgor Cymreig y Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu, fod Xonvea yn costio £28 am 10 diwrnod o driniaeth.

Rhybuddiodd am ofid pellach i'r cleifion a'r staff dan sylw am "nad yw adrannau'n cael rhoi Xonvea, y feddyginiaeth sy'n gwella’r symptomau".

Mae wedi annog gweinidogion Cymru i sicrhau nad yw menywod yn cael eu “gadael ar ôl o’i gymharu â gwledydd eraill y DU”.

Yn 2019, penderfynodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) – sy’n cynghori gweinidogion – wrthod y cyffur oherwydd bod tystiolaeth “annigonol” ei fod yn gost-effeithiol.

Daeth yr Alban i gasgliad tebyg tra bod mynediad yn Lloegr yn anghyson.

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau bod y pris yn is na’r gost sydd i’w dalu wrth drin cleifion.

Mae’n costio £850 i drin menyw â salwch difrifol yn yr ysbyty, gyda galwadau ambiwlans yn costio £238 ar ben hynny, yn ôl data a gafodd ei gyflwyno i’r pwyllgor deisebau.

‘Ofnadwy o anodd’

Dywedodd Sarah Spooner, o Sir Fynwy, fod y "ffordd tymor byr" o ystyried gwerth y cyffur yn anwybyddu costau gan gynnwys trin iechyd meddwl cleifion.

Dywedodd Ms Spooner ei bod hi wedi dioddef o salwch beichiogrwydd mor ddifrifol nes bod yn rhaid iddi wneud penderfyniad “anodd iawn” i gael erthyliad.

Dioddefodd Rhian Pope-Flood hefyd o hyperemesis gravidarum yn ystod dau feichiogrwydd. Yn ystod y cyfnodau, dywedodd ei bod yn gaeth i'r gwely a bu’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty sawl gwaith.

"Doeddwn i ddim yn gallu cadw unrhyw fwyd i lawr, cyrhaeddodd y pwynt lle'r oeddwn i'n ei chael hi'n anodd bwyta unrhyw beth, yfed unrhyw beth,” meddai.

“Rwy'n credu i mi golli stôn o fewn wythnos.

“Roedd yn ofnadwy, roeddwn i'n teimlo'n euog dros y babi yn y groth, a oedd hi'n cael digon o faeth gen i oherwydd prin oeddwn i'n bwyta unrhyw beth."

Dywedodd ei bod hi'n teimlo mor sâl fel ei bod hi'n deall menywod sy’n teimlo nad oedd ganddyn nhw ddewis ond dod â'u beichiogrwydd i ben.

"Rydych chi'n gwneud peth anhygoel yn dod â bywyd i'r byd hwn, ac rydych chi'n teimlo'n hollol ofnadwy, ac rwy’n gwybod fod rhai menywod yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu parhau â'u beichiogrwydd gan ei fod mor ddrwg,” meddai.

"Roeddwn i'n casáu pob munud ohono.

“Rwy'n ddiolchgar am beth ddaeth ohono, peidiwch â'm camddeall i, ond ni fyddwn yn dymuno'r teimlad hwnnw i neb."

Ymateb

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cysylltu â gwneuthurwr Xonvea i holi a oes diweddariad am gost-effeithiolrwydd y cyffur.

"Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru gynnig ystod o driniaethau effeithiol i fenywod sy'n dioddef salwch beichiogrwydd eithafol,” medden nhw.

“Mae'r rhain yn cynnwys Xonvea mewn achosion eithriadol lle mae triniaethau eraill wedi methu.

“Mae meddygon teulu ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru yn rhagnodi Xonvea yn rheolaidd."

Wrth ysgrifennu at y pwyllgor deisebau, dywedodd ysgrifennydd iechyd Cymru, Jeremy Miles, bod mwy na 1,140 o bresgripsiynau Xonvea wedi'u cynnig rhwng Ionawr a Gorffennaf 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.