‘Lot o arian, lot o risg’: Disgwyl i ebol o fridfa ger Pencader werthu am £500,000
Fe allai ebol blwydd sydd wedi’i fagu mewn bridfa ger Pencader werthu am tua £500,000 neu fwy mewn un o arwerthiannau ceffylau mwyaf y byd.
Mae’r ebol o Fridfa Maywood ar ei ffordd i Newmarket, lle bydd yn mynd o dan y morthwyl ddydd Mawrth.
Huw a Kelly Thomas sydd y tu ôl i’r fridfa, ac wrth siarad â rhaglen Ffermio cyn y daith i'r dref honno, dywedodd Huw fod blynyddoedd o waith wedi mynd i gyrraedd y lefel yma.
“Mae 'di hala 20 mlynedd i ni neud e, i ni ddod ati,” meddai.
Llwyddiant Gstaad a Vandeek
Mae’r fridfa wedi cael cryn lwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda Gstaad a Vandeek ymhlith y ceffylau sydd wedi’u magu yno.
Dwy flynedd yn ôl, gwerthodd y fridfa ebol gafodd ei enwi’n Gstaad am 450,000 gini.
“Oedd e'n dipyn o sioc ar y pryd a falch iawn,” meddai Huw.
“A mae'n neis hefyd gweld Gstaad wedi rhedeg a wedi ennill yn ystod y dwy flynedd diwetha.”
Ers hynny mae Gstaad wedi ennill y Breeders’ Cup Juvenile Turf yn America a’r Irish 2,000 Guineas, yn ogystal â’r Coventry Stakes yn Royal Ascot.
Mae Vandeek hefyd wedi cael llwyddiant ar y lefel uchaf, gan ennill y Prix Morny a’r Middle Park Stakes.
Mae’r llwyddiant wedi arwain at wobrau i’r fridfa ei hun hefyd.
Mae Maywood Stud wedi ennill Cwpan Langham, gwobr Bridwyr Bach y Flwyddyn gan y Thoroughbred Breeders’ Association, ddwywaith.
Wrth ddangos y gwpan i Ffermio, dywedodd Huw, “dim ond dwy berson sydd 'di ennill e ddwywaith."
“So mae'n neis bod yn rhan o'r elit," meddai.
Mae’r ebol sydd ar fin cael ei werthu hefyd yn perthyn yn agos i Gstaad.
Gan ei fod yn rhannu’r un tad â Gstaad, a bod ei fam yn hanner chwaer iddo, mae’n cael ei ddisgrifio ym myd bridio ceffylau fel “brawd tri-chwarter” i Gstaad.
Dywedodd Huw fod y teulu’n falch iawn o’r ffordd mae’r ebol wedi datblygu cyn yr arwerthiant.
“Mae'n anodd gweud. Fydd hi'n neis dilyn ei stori fe, ond mae ei amser wedi dod i ben gyda ni.
“Mae'n amser iddo fe fynd i Newmarket i'r sêl wythnos nesa. Allai ni byth gofyn am well. Mae e 'di troi mas yn arbennig. Ry'n ni'n blesu iawn ag e.
“Ia, jyst croesi bysedd nawr bod popeth yn iawn yn y sêl.”
‘Lot o arian, lot o risg’
Mae Huw Thomas yn dweud bod buddsoddiad sylweddol a risg ariannol ynghlwm â bridio ceffylau ar y lefel yma.
“Ry'n ni'n trafod lot o arian. Mae'r stud fees yma yn, wel maen nhw'n anferth.
“Unrhyw le o ddwy, dair mil lan i dros 300,000.
“Mae'n lot o arian, mae'n lot o risg.”
Dywedodd ei bod yn braf pan mae’r gwaith a’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed.
“Ond mae'n neis pan mae pethau'n cwympo i le a maen nhw'n dod at ei gilydd.
“So gawn ni weld. Ni'n gobeithio neith popeth yn iawn dydd Mawrth nesa.”
Er bod gobaith y gallai’r ebol ddenu pris sylweddol yn Newmarket, dywedodd Huw mai gweld y ceffyl yn llwyddo yn y dyfodol sydd bwysicaf iddo.
“Mae tipyn o dwll yma i lanw gyda'r holl gostau. So fi'n gobeithio neith popeth yn iawn.
“A, ie, gawn ni weld. Ond mwy na dim, dw i jyst yn gobeithio eith e i le lle gall e bod mor llwyddiannus a Gstaad rili a Vandeek a rest y teulu.”