Newyddion S4C

Undebau yn beirniadu toriadau tanwydd gaeaf

09/09/2024
Keir Starmer yn siarad mewn cynhadledd yn 2023

Mae dau o'r prif undebau llafur wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri taliadau tanwydd gaeaf i filiynau o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr.

Daw hyn wrth i'r Prif Weinidog wynebu'r posibilrwydd bod rhai aelodau o'i blaid yn gwrthryfela yn erbyn y polisi pan fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Mawrth.

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud bod yn rhaid torri'r taliadau o achos cyflwr economaidd y wlad.

Mae'r newidiadau yn golygu na fyddai mwy na 10 miliwn o bensiynwyr  yn derbyn taliadau o rhwng £200 a £300 y flwyddyn. Dim ond pobl sydd ar incwm isel sydd yn derbyn rhai budd-daliadau fydd nawr yn cael y taliadau. 

Ond mae Unite a Public and Commercial Services Union (PCS) wedi dweud wrth y BBC  bod angen i'r llywodraeth ail ystyried ac mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) hefyd wedi mynegi pryderon.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham wrth y BBC bod angen i'r llywodraeth fod yn "ddigon dewr"i gyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriad. 

Mae Fran Heathcote, ysgrifennydd cyffredinol y PCS wedi dweud bod posibilrwydd y gallai yna fod streic gyffredinol ynglŷn â'r toriadau.

Ond wrth siarad ar raglen Laura Kuenssberg ddydd Sul dywedodd Keir Starmer bod yn rhaid i'r llywodraeth newydd "fod yn amhoblogaidd" a gwneud "penderfyniadau anodd".

Dywedodd bod llywodraethau yn y gorffennol wedi osgoi edrych ar ba mor gostus yw'r taliadau tanwydd.

Does dim disgwyl i'r polisi beidio cael ei basio ond mae rhai Aelodau Seneddol Llafur wedi galw ar y llywodraeth i beidio bwrw ymlaen. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.