Teyrnged i filwr 'anturus a meddylgar' o Gatrawd y Cymry Brenhinol
Mae teyrnged wedi ei rhoi i filwr "anturus a meddylgar" o Gatrawd y Cymry Brenhinol a fu farw'r wythnos diwethaf.
Roedd yr Is-gorporal Bryn Jenkins yn aelod o Fataliwn Cyntaf Catrawd y Cymry Brenhinol ym Marics Lucknow yn Tidworth, Wiltshire.
Dywedodd y Cymry Brenhinol mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol fod yr Is-gorporal Jenkins wedi marw ddydd Sul diwethaf.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gyn arweinydd Platŵn, y Capten Ed Wills-Wood, y bydd ei golled yn "gadael twll nad oes modd ei lenwi".
"Roedd Bryn, fel roeddwn i bob amser yn ei adnabod, yn enaid anturus, meddylgar ac roedd hefyd yn darparu hiwmor diddiwedd," meddai.
"Roedd yn rhan fawr o’r rheswm pam mai fy nwy flynedd gyda’r Platŵn oedd y rhai mwyaf pleserus yn fy ngyrfa yn hawdd.
"Gwelais ef yn mynd o nerth i nerth, gan gymhwyso fel Sniper, cymryd mwy o gyfrifoldeb fel arweinydd iau a chael effaith gadarnhaol ar bawb o’i gwmpas."
Ychwanegodd: "Bydd gen i bob amser atgofion melys am ein hamser gyda'n gilydd o'r Almaen i Wlad Pwyl a'i ymgyrch gyson i wella a datblygu...
"Roedd ei gymeriad yn golygu ei fod yn ffigwr adnabyddus yn y Bataliwn, a bydd ei golled yn gadael twll nad oes modd ei lenwi.
"Roedd Bryn y math o Gymro yr oeddwn wedi gobeithio gweithio gydag ef wrth ymuno â'r Gatrawd.
"Byddaf yn ei golli'n fawr ac yn ei gofio bob amser."
