Yr archifydd cerddoriaeth Gari Melville wedi marw yn 70 oed

Gari Melville

Mae'r archifydd, ymchwilydd ac awdur cerddoriaeth Gari Melville wedi marw yn 70 oed.

Roedd yn gyfrifol am gasgliad yr Archif Roc a Phop Cymru, sef prosiect archifol er mwyn casglu a diogelu deunydd yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru.

Fe aeth i Ysgol Uwchradd Cwmtawe ym Mhontardawe ac astudiodd Ddiwinyddiaeth a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Hull rhwng 1974 ac 1978.

Ar ôl graddio o'r brifysgol roedd yn gweithio fel archifydd yn HTV yn yr 1980au, gan yna ymuno â rhaglen Heno ar S4C fel ymchwilydd cerddoriaeth.

Roedd hefyd yn ymchwilydd ac ymgynghorydd llawrydd a bu'n gyd-olygydd y gyfrol Caniadau, cofnod cynhwysfawr o waith y cerddor Meic Stevens.

Ar gyfer dathliadau 40 mlwyddiant y label cerddoriaeth Fflach yn 2021, bu'n chwilio drwy ei gasgliad o recordiau i lunio rhestr o’r hoff ganeuon gan y label.

Roedd yn byw ym Mhontardawe gyda'i wraig Nia Melville, a fu'n cyflwyno'r sioe gerddoriaeth Heno Bydd yr Adar yn Canu ar Radio Cymru.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei ferch, Tanglwst Melville, bod ei thad wedi marw ddydd Mawrth.

"Dwi'n rhannu y newyddion trist fod bu farw ein tad, Gari, yn oriau mân y bore ar y 9fed o Rhagfyr," meddai mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol.

"Odd fi a fy mhrawd, Griffri, wrth eu ochr drwy gydol yr amser ac er ei fod yn golled ofnadwy i'r ddwy ohonom, mae gennym heddwch drwy wybod fod odd Dad wedi'i amgylchynu a chariad yn ystod ei eiliadau olaf.

"Hoffwn Griff a finnai rhoi diolch i'r staff Ysbyty Morriston am eu cefnogaeth dros yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

"Diolch am cadw ein teulu yn eich meddyliau yn ystod yr amser anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.