Dau wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerffili
Dau wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerffili
Mae dau berson wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Caerffili wedi adroddiad am ffrwydrad mewn gardd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ ar Heol Fawr ym mhentref Nelson am 18.10 ddydd Gwener.
Fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau fod swyddogion heddlu a diffoddwyr tân wedi mynd i'r lleoliad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Yn anffodus, cyhoeddwyd bod dau berson wedi marw yn y lleoliad ac mae eu teulu wedi cael gwybod.
"Mae'r digwyddiad yn parhau ac mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd.
"Mae dargyfeiriadau ar waith i sicrhau eich diogelwch.
"Dewch o hyd i lwybr arall ar gyfer eich taith.
"Os ydych chi'n byw yn lleol, gwnewch yn siŵr bod yr holl ddrysau a ffenestri ar gau."
Mae'r ffordd, sydd yn agos i ganol y pentref, wedi ei chau ger y tŷ.
'Trasiedi'
Dywedodd y cynghorydd cymuned dros Nelson, Eifion ap Llwyd Dafydd, bod mwg i'w gweld yn codi o'r tŷ.
"Roedd yna arogl gwenwynig yn yr awyr o'r tân. Doeddwn i ddim yn gallu gweld y fflamau, ond fe glywais i bobl eraill yn siarad am y fflamau o ochr arall yr eiddo," meddai.
"Dwi wedi bod yn siarad gyda phobl yma heddiw. Mae pawb yn drist iawn.
"Trasiedi yw'r un disgrifiad sy'n cael ei ddefnyddio am yr holl beth."
Llun: PA
