Cefnogwyr Cymru ‘dan anfantais enfawr’ wrth geisio am docynnau Cwpan y Byd

Paul Corkrey / Ffred Ffransis

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru dan "anfantais enfawr" wrth geisio prynu tocynnau ar gyfer Cwpan y Byd 2026 yn ôl rhai cefnogwyr.

Er mwyn ennill eu lle yn y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yr haf nesaf, fe fydd yn rhaid i Gymru ennill eu gemau ail gyfle yn y rownd rhagbrofol.

Byddai hynny’n golygu y byddai angen curo Bosnia a Herstegofina ar 26 Mawrth, cyn ennill y rownd derfynol yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd, ar 31 Mawrth.

Mae cefnogwyr o wledydd sydd eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y twrnamaint, gan gynnwys Lloegr a’r Alban, wedi codi pryderon am brisiau tocynnau, gyda cyrff yn cyhrychioli cefnogwyr yn dweud mai dyma fydd y Cwpan y Byd drytaf erioed.

Mae’r tocynnau rhataf ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu gwerthu am tua £3,000.

Er bod gan tîm Craig Bellamy waith i’w wneud er mwyn cyrraedd y gemau, mae rhai o gefnogwyr Cymru eisoes yn pryderu am gost gwneud hynny.

Mae Paul Corkrey, sydd yn cynrychioli FSA Cymru (Football Supporters’ Associatuon Cymru), yn dweud nad yw cwota swyddogol o 8% i’r naill wlad sy’n cymryd rhan mewn gemau yn ddigon.

“Tan bod Cymru yn cyrraedd, dydw i ddim yn edrych ar hyn yn ormodol – ond dwi’n cadw llygad ar y sefyllfa,” meddai.

“Mae cyrff cefnogwyr yn Ewrop a bob man wedi bod yn ceisio codi pryderon gyda FIFA, ond dy’n nhw just ddim yn gwrando. Mae ganddyn nhw agenda eu hunain ac maen nhw’n gwneud yn gwmws beth maen nhw moyn gwneud.

“Fyddan ni pedwar mis tu ôl i bawb yn trefnu mynd. Mae na allocation wedi’i gadw i gefnogwyr Cymru, dim llawer, dim gymaint a ddyle na fod, achos da ni’n credu y dylai’r ddwy wlad sy’n chwarae gael 40% y cant o’r tocynnau yr un – ond dim ond 8% fydden nhw’n eu cael.

“Felly o bosib fydd gennych chi stadiwm gyda Cymru’n chwarae’n erbyn Qatar, ac mi fydd dros hanner y stadiwm yn bobl sydd ddim yn dod o’r gwledydd yna, ac mae hynny wedi’n ngwylltio i hefyd.

“Erbyn i ni wybod os ydan ni di cyrraedd yno, mi fydd y ffleits rhataf wedi mynd, y gwestai sydd wedi’u prisio fwyaf rhesymol – felly lle mae hynny’n gadael ffans Cymru...neu pwy bynnag sydd yn cyrraedd yno. Mae’n anfantais enfawr.”

Fe ychwanegodd: “Fydd y tocynnau rhad ddim ar gael i’r cefnogwyr sydd yn haeddu nhw mwyaf, sydd wedi dilyn eu tîm i bob man, a di bod i’r gemau rhagbrofol i gyd.

“Pan fydd yn dod i’r rowndiau terfynol, fyddan nhw efo bil anferth achos mae’n troi mewn i ‘premier product’ nawr. Mae rhai o’r gemau yma yn $300. Mi fydd y gêm gyntaf yn bris uchel iawn, a’r rowndiau cyn derfynol a’r ffeinal.”

Image
Ffred Ffransis
Ffred Ffransis

'Ffŵl Ebrill'

Mae Ffred Ffransis o Lanfihangel-ar-Arth wedi dilyn y tîm ers degawdau.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd nad oedd system docynnau FIFA wedi gwneud pethau’n hawdd i gefnogwyr Cymru.

“Wrth gwrs mae prisiau tocynnau yn mynd i fod yn ddifrifol, ac hefyd y posibiliadau o cael nhw," meddai.

Os yw Cymru’n llwyddo i gyrraedd, fe fydden nhw’n rhannu grŵp â’r Canada, Y Swistir, a Qatar.

Byddai’r gêm yn erbyn Canada yn cael ei chynnal yn Toronto ar 12 Mehefin, y gêm yn erbyn Y Swistir ar 18 Mehefin yn Los Angeles, a’r gêm yn erbyn Qatar yn Seattle ar 24 Mehefin.

Dywedodd Mr Ffransis na fyddai’n ystyried mynd i’r ddwy gêm yn yr Unol Daleithiau, ond y byddai yn awyddus i fynd i’r gêm agoriadol.

“Hyd at diwedd mis Mawrth, fedrwn ni ddim gwneud dim byd," meddai.

"Yr unig beth ellir ymgeisio amdano fo ydi tocynnau agored, sydd yn brisiau anhygoel – neu ceisio am docynnau ar wefannau answyddogol, lle does dim sicrwydd bod y tocyn yn bodoli.

“Neu’r opsiwn arall ydi aros nes bod cwota Cymru ar gael, sydd yn 8% o bob gêm. Dwi’n meddwl mai 3,600 yn unig fydd ar gael yn Toronto, ac mi fyddan nhw’n cael eu dosbarthu drwy FAW.

“Be sy’n ofnadwy o eironig ydi ystyried be di dyddiad y gêm yn erbyn yr Eidal neu Gogledd Iwerddon, ar 31 Mawrth – fydd pawb yn dechrau ymgeisio am tocynnau ar Ddydd Ffŵl Ebrill!

“Mae na ryw arwydd yna falle mai dim ond ffyliaid fydd yn gallu mynd... ond bydd angen ffyliaid dros Gymru.

“Bydd gen i ddiddordeb yn y gêm gynta' na, ond dim ond ymlhith y ffans Cymru. Dwi ddim yn mynd i borthi’r farchnad rydd, sydd efo lefel prisiau wedi gosod. Mae’n ecsploetiadol beth bynnag.”

Mae FIFA eisoes wedi ymateb i feirniadaeth am bris tocynnau Cwpan y Byd gan ddweud eu bod nhw'n "adlewyrchu’r hyn sy'n arferol o fewn y farchnad bresennol ar gyfer digwyddiadau adloniant a chwaraeon mawr".

"Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau mynediad teg i'n gêm i gefnogwyr presennol ond hefyd i darpar gefnogwyr," meddai llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.