Newyddion S4C

Tywysog Cymru yn ymweld ag ysgol yn Llanelli i ddathlu eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

10/09/2024
Ruby a William

Mae Tywysog Cymru wedi ymweld ag ysgol gynradd yn Llanelli, Sir Gâr ddydd Mawrth i gwrdd â'r disgyblion a chlywed am eu profiadau yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni. 

Fe wnaeth y Tywysog William ymweld ag Ysgol Gynradd Swiss Valley i wylio perffomiadau gan rai o'r disgyblion a fu'n cystadlu yn yr ŵyl ddiwedd Mai.

Yn eu plith roedd Ruby Davies, y ferch ifanc a gipiodd galonnau pobl Cymru yn yr Eisteddfod eleni.

Fe gafodd fideo o fuddugoliaeth Ruby yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol i Ddysgwyr Blwyddyn 5 a 6 ei rannu ledled y byd.

Roedd hynny’n bennaf o ganlyniad i gyfweliad bythgofiadwy rhyngddi â’r cyflwynydd Mari Lövgreen, gyda Ruby yn datgan, ‘I’m so happy!’

Nawr mae’r ferch o Ysgol Gynradd Swiss Valley yn Llanelli yn benderfynol o fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Dyma ymweliad brenhinol cyntaf William ers i'w wraig, Tywysoges Cymru, gyhoeddi ei bod hi wedi gorffen ei thriniaeth cemotherapi. 

Mewn fideo ddydd Llun, cyhoeddodd y dywysoges y bydd yn dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar ôl cwblhau y driniaeth.

Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth ei bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser, a'i bod wedi dechrau cemotherapi fis Chwefror.

Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu cynnal ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.