'Super cyffrous': Seren Eisteddfod yr Urdd wrthi'n dysgu Cymraeg wedi ei llwyddiant
'Super cyffrous': Seren Eisteddfod yr Urdd wrthi'n dysgu Cymraeg wedi ei llwyddiant
Mae merch ifanc a gipiodd calonnau pobl Cymru yn Eisteddfod yr Urdd eleni bellach yn trio ei gorau i ddysgu Cymraeg.
Roedd fideo o fuddugoliaeth Ruby o Lanelli yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol i Ddysgwyr Blwyddyn 5 a 6 wedi ei rannu ledled y byd.
Roedd hynny’n bennaf o ganlyniad i gyfweliad bythgofiadwy rhyngddi a’r cyflwynydd Mari Lövgreen, gyda Ruby yn datgan, ‘I’m so happy!’
Nawr mae’r ferch o Ysgol Gynradd Swiss Valley yn Llanelli yn benderfynol o fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
“Mae lot wedi digwydd,” meddai Ruby wrth siarad â Newyddion S4C.
“Mae’n hapus iawn, a super, super cyffrous,” ychwanegodd.
Cyn iddi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, ychydig iawn o Gymraeg oedd ganddi ond roedd perfformio’r gerdd ‘Siopa’ gan Sali Ann Preston wedi helpu iddi ddysgu rhagor o’r iaith.
Dywedodd ei mam, Lynne Davies eu bod nhw’n cyfeirio yn ôl at y gerdd yn aml: “Dwi’n ddweud, ‘Ww, mae’n rhy ddrud i fi’.”
“A phan mae Mammy’n dweud ‘dyn ni’n mynd i New Look, dwi’n dweud, ‘O prynu siorts yn y New Look, Primark!”
'Deall'
A hithau bellach yn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, mae Ruby a’i theulu yn credu y bydd rhagor yn cael eu hysbrydoli i ddysgu'r iaith gan yr holl ddathliadau a chystadlu.
Dywedodd y teulu bod y profiad o fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd wedi gwneud iddyn nhw fod eisiau dysgu’r iaith, ac maen nhw bellach yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Mae Ruby yn gwneud ymarferion Duo Lingo, neu ‘Dai Lingo’ fel y mae'r teulu yn ei alw er mwyn nodi'r cysylltiad Cymreig, yn ddyddiol, ac maen nhw i gyd yn ymdrechu i siarad Cymraeg gyda’i gilydd – gan gynnwys gyda’r ci, Calon.
“Mae gallu deall nawr, os ni’n gofyn cwestiwn, mae’n deall,’ medd Lynne am ei merch Ruby.
“Mae’n ateb yn Saesneg – ond mae’n gam ymlaen ei bod hi’n deall.”
Wedi i’w mam gofyn iddi fwyta’n iachus ar eu gwyliau haf yn ddiweddar, dywedodd Ruby ei bod wedi ymateb yn y Gymraeg gan ddweud: “Dwi ddim yn eisiau llysiau, dwi’n eisiau hufen ia!”
'Ysbrydoliaeth'
Mae rhieni Ruby yn gobeithio y bydd ei thaith i ddysgu'r iaith yn “ysbrydoliaeth” i siaradwyr newydd eraill.
Roedd ei thad, Tristan Davies, yn gallu siarad Cymraeg yn fachgen ifanc ond wedi iddo fynychu ysgol cyfrwng Saesneg, fe gollodd ei ddefnydd o’r iaith.
Dywedodd fod ei ferch wedi ei ysbrydoli ef i ail-gydio yn yr iaith, a’i fod yn “falch iawn” o'r hyn y mae hi wedi ei gyflawni.
“Mae fe wedi bod yn neis i dechrau dysgu unwaith eto,” meddai Tristan Davies.
“Siarad gyda Ruby bob dydd, yn y bore, yn y nos, geiriau newydd.
“Achos fi gallu deall popeth, ond mae e’n mwy galed i siarad, felly mae hwn wedi ysbrydoli fi i siarad Cymraeg unwaith eto.”
Ac wedi iddi dderbyn nifer o lythyron a chardiau yn ei llongyfarch, ei chanmol, a’i diolch am ei defnydd o’r Gymraeg – mae gan Ruby neges bwysig i rannu gyda phawb sydd wedi ei chefnogi hyd yma.
“Diolch yn fawr iawn i pawb!” meddai.