Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

10/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Sadwrn, 10 Gorffennaf.

'Rhaid i ddynion ddeall bod rhai pethau'n croesi'r ffin'

Ddechrau’r mis cafodd y Mesur Camdrin Domestig ei ddiweddaru ac mae rheolau newydd yn golygu fod bygwth rhannu delweddau o unigolion heb eu caniatâd bellach yn anghyfreithlon. Ond, mae menyw o Ferthyr Tudful, sydd wedi siarad yn anhysbys am ei phrofiad o gael ei ffilmio gan ffrindiau ei chyn-bartner tra'n noeth ac yn feddw, cyn i'r delweddau gael eu rhannu, yn dweud fod angen cymryd camau pellach. 

Byrddau iechyd y de dan bwysau cynyddol o achosi Covid-19

Mae dau o fyrddau iechyd y de wedi cyhoeddi eu bod o dan bwysau cynyddol o achos coronafeirws. Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod eu gwasanaethau mamolaeth dan "bwysau difrifol" oherwydd nifer y staff sydd naill ai â Covid-19, sy'n gorfod hunan-ynysu neu nad ydynt ar gael oherwydd salwch yn ogystal â materion yn ymwneud â coronafeirws. Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynghori i bobl ddefnyddio gwasanaethau 111 ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal er mwyn ysgafnhau pwysau wrth i lefelau Covid-19 gynyddu. 

Cefnogaeth 'llygoer' y gwledydd Celtaid i orchestion Lloegr yn Euro 2020

Mae'r Guardian wedi bod yn casglu barn rhai o gefnogwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iweddon am lwyddiant tîm pêl-droed Lloegr cyn eu gêm yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol Euro 2020 nos Sul. Yn ôl The Guardian, mae rhan fwyaf o gefnogwyr y gwledydd Celtaidd yn canmol arweinyddiaeth y rheolwr, Gareth Southgate, ac ymroddiad y chwaraewyr, ond yn credu bod sylw i'r garfan gan y cyfryngau wedi "difetha'r profiad i bawb arall".

'Cynnydd sydyn' yn nifer achosion Covid-19 yn ardal y Drenewydd

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi galw ar bobl o'r Drenewydd a'r ardaloedd cyfagos i gymryd prawf coronafeirws, wrth i nifer o achosion Covid-19 gynyddu yn yr ardal. Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r cyfradd yr achosion wedi cyrraedd dros 500 fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y dref. O ganlyniad, mae canolfan sydd yn darparu profion coronafeirws wedi ailagor yn y Drenewydd ddydd Sadwrn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.