Newyddion S4C

‘Rhaid i ddynion ddeall bod rhai pethau’n croesi’r ffin’

10/07/2021
NS4C

“Ma’ fe’n rhywbeth sydd yn sticio gyda ti am oesoedd. So fe’n mynd i ffwrdd”.

Dyma brofiad un ddioddefwraig o Ferthyr Tudful gafodd ei ffilmio gan ffrindiau ei chyn-bartner tra oedd hi’n noeth mewn gwely a hithau dan ddylanwad alcohol.

Cafodd y delweddau eu rhannu ac nid oedd ganddi unrhyw atgof am y digwyddiad.

Ddechrau’r mis cafodd y Mesur Camdrin Domestig ei ddiweddaru ac mae rheolau newydd yn golygu fod bygwth rhannu delweddau o unigolion heb eu caniatâd bellach yn anghyfreithlon.

Mae’r fenyw o Ferthyr sydd wedi siarad yn anhysbys gyda Newyddion S4C yn dweud fod angen cymryd camau pellach:

“Mae bygwth rhannu delweddau personol o bobl yn cael yr un math o impact a rhannu’r delweddau go iawn. Mae lot rhagor i wneud cyn i unrhyw ddeddf wneud gwahaniaeth mawr.

“Yn amlwg, mae’r ddeddf yn beth dda ond os d’ach chi’n meddwl yn ôl m’ond ychydig o fisoedd i achos Sarah Everard a’r uproar roedd dynion yn creu gyda ‘Not All Men’, yn ogystal â holl ymateb yr heddlu hefyd, mae’n amlwg bod gymaint dal i’w wneud.”

Image
NS4C

Pan glywodd hi am y fideo oedd yn cael ei rhannu ymysg yr un grŵp o ddynion ychydig o fisoedd wedyn, roedd hi wedi ei dychryn:

“Roedd e’n sioc. Doeddwn i ddim yn gwybod am y fideo tan fisoedd ar ôl y digwyddiad, felly roedd e’n hollol sioc.

“Sai’n gwybod beth sydd wedi digwydd i’r lluniau neu’r fideos. Dwi ddim yn gwybod ble maen nhw, pwy sydd gyda nhw, pwy sydd wedi gweld nhw…‘dyw e ddim yn neis.

“Mae’n dod i’r meddwl yn aml. Ond ti jest yn meddwl ‘does dim byd alla i wneud amdano fe’”, meddai.

Profiad cyffredin

Yn ôl sefydliadau Cymorth i Fenywod Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a Llinell Gymorth ‘Revenge Porn’ – nid yw profiad y fenyw fu’n siarad gyda Newyddion S4C yn un unigryw.

Mae menywod 27 gwaith yn fwy tebygol o dderbyn bygythiadau o natur rhywiol a threisgar ar-lein o gymharu â dynion yn ôl Cymorth i Fenywod Cymru.

Ac mae un o bob saith o fenywod wedi derbyn bygythiad o weld eu lluniau personol yn cael eu rhannu medd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.

Yr anhawster mwyaf, yn ôl y ddioddefwraig, yw’r cywilydd sy'n dilyn y fath brofiad:

“Ti ddim yn gweld e, ti ddim yn gwybod pwy sydd wedi mynd trwy e… Rwy’n credu os oedd y math yma o gam-drin yn cael ei siarad amdano fwy, efallai byswn i’n fwy tebygol o fynd at yr heddlu.

‘Cywilydd’ mynd at yr heddlu

Er iddi ddioddef o ganlyniad i’r digwyddiad oedd yn drosedd, ni aeth at yr heddlu ar y pryd.

“Penderfynais i beidio ‘neud unrhyw beth amdano fe achos odd’ e’n teimlo fel gwastraff amser. Ti’n meddwl ‘beth fyddai’r heddlu yn actually ‘neud amdano fe?’.

“Ti’n pryderu y bydde nhw ddim yn cymryd chi o ddifri neu’n barnu chi yn lle ‘neud unrhyw beth amdano fe.

“Mae 'na gywilydd hefyd. Os bydde ni wedi mynd at yr heddlu byddai’r person yn gwybod a phob un o’i ffrindiau. ‘Dyw e ddim yn rhywbeth ‘da chi eisiau i’r gymuned gyfan gwybod amdano.”

‘Sicrwydd i ddioddefwyr’

Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Eve Davies, Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd gyda Heddlu De Cymru, mae sicrhau cyfiawnder a chefnogi dioddefwyr y math yma o drosedd yn flaenoriaeth i’r heddlu.

“Mae gwaith i’w wneud o hyd i wella’r profiad a’r gwasanaeth mae dioddefwyr yn derbyn pan fyddant yn mynd i’r heddlu am gamdriniaeth. Mae achosion cam-drin domestig yn rhai o’r troseddau mwyaf cymhleth i’r heddlu, ac rydym wedi gweithio’n galed i godi hyder pobl pan fyddant yn dod atom ni.

“Rydw i eisiau rhoi sicrwydd i ddioddefwyr cam-drin domestig a ddaw i’r heddlu y bydd rhywun yn gwrando arnynt, byddant yn cael eu trin a pharch a thosturi, a bydd ymchwiliad trylwyr yn cael ei lansio.”

Yn ôl y ddioddefwraig sydd wedi rhannu ei phrofiad gyda Newyddion S4C, mae angen codi ymwybyddiaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn cymdeithas:

“Mae angen i bawb godi ymwybyddiaeth am yr holl achos er mwyn i’r stigma gael ei dynnu allan ohono fe am y menywod sydd yn cael eu heffeithio.

“Mae rhaid i ddynion yn enwedig deall bod rhai pethau yn croesi’r ffin, mae rhaid i nhw ddeall hwnna. Dyna ble mae’r newid angen dechrau. Ma’ ‘na lot i ‘neud.”

Stori gan Molly Sedgemore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.