Byrddau iechyd y de dan bwysau cynyddol o achos Covid-19
Mae dau o fyrddau iechyd y de wedi cyhoeddi eu bod o dan bwysau cynyddol o achos coronafeirws.
Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod eu gwasanaethau mamolaeth dan "bwysau difrifol" oherwydd nifer y staff sydd naill ai â Covid-19, sy'n gorfod hunan-ynysu neu nad ydynt ar gael oherwydd salwch yn ogystal â materion yn ymwneud â coronafeirws.
O ganlyniad, mae'r bwrdd iechyd wedi penderfynu peidio darparu rhai gwasanaethau ar unwaith, gan gynnwys gwasanaeth genedigaeth gartref er mwyn cynnal gofal mamolaeth ddiogel.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Byddwn yn adolygu'r sefyllfa mewn pythefnos a byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw newidiadau. Byddem yn annog y teuluoedd hynny sydd wedi cynllunio genedigaeth gartref i gysylltu â'u bydwraig gymunedol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
"Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi siom, ond byddwch yn sicr na chymerwyd y penderfyniad i atal y gwasanaeth hwn yn ysgafn.
"Byddem yn gofyn ichi gysylltu â ni cyn gynted ag y bydd gennych unrhyw arwyddion o esgor, a fydd yn ein helpu i gynllunio'ch gofal.
"Mae croeso i bartneriaid cymorth hanfodol ddod i bob lleoliad pan fydd gennych asesiad cychwynnol mewn esgor.
"Lle nad ydych yn esgor ac yn ddiogel gwneud hynny, fe'ch cynghorir i ddychwelyd adref ac aros i'ch esgor symud ymlaen. Bydd hyn yn lleihau faint o amser rydych chi'n cael eich gwahanu oddi wrth eich cefnogaeth hanfodol.
"Ymddiheurwn am unrhyw siom y gallai hyn ei achosi a diolch i'n cymuned am y gefnogaeth barhaus ar yr adeg heriol hon."
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynghori i bobl ddefnyddio gwasanaethau 111 ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal er mwyn ysgafnhau pwysau wrth i lefelau Covid-19 gynyddu.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Rydym yn parhau i weld cynnydd yn y nifer sydd angen ein gwasanaethau, ac yn anffodus yn y nifer o gleifion sydd yn dod i'r ysbytai â Covid-19.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth gan ein cymunedau a cymaint rydych wedi aberthu dros yr 18 mis diwethaf.
"Ond, mae'n bwysig nad ydym yn peryglu'r cynnydd rydym wedi gwneud wrth geisio dod â nifer o'r achosion i lawr.
"Cysylltwch â gwasanaeth 111 neu ewch i weld eich fferyllfa leol os ydych angen gofal iechyd neu driniaeth dros y penwythnos. Mae meddyg teulu neu adran damweiniau ac achosion brys ar gael i faterion brys yn unig."
Llun: Swansea Photographer