'Cynnydd sydyn' yn nifer achosion Covid-19 yn ardal y Drenewydd
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi galw ar bobl o'r Drenewydd a'r ardaloedd cyfagos i gymryd prawf coronafeirws, wrth i nifer o achosion Covid-19 gynyddu yn yr ardal.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r cyfradd yr achosion wedi cyrraedd dros 500 fesul 100,000 o'r boblogaeth yn y dref.
O ganlyniad, mae canolfan sydd yn darparu profion coronafeirws wedi ailagor yn y Drenewydd ddydd Sadwrn.
Mae'r Ganolfan Brofi Asymptomatig wedi cael ei leoli yng Nghanolfan Stryd y Parc yn y dref ac yn cynnig profion Covid-19 cyflym i bobl sydd heb symptomau o'r feirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae symptomau Covid yn amrywio o ddifrifol iawn i'r rhai sydd heb unrhyw syniad bod ganddynt y feirws. Gall y rhai heb unrhyw symptomau heintio eraill heb sylweddoli.
"Gofynnwn i gynifer o bobl â phosibl dod ymlaen i gael eu profi. Mae canolfan Stryd y Parc yn gallu cynnal profion Covid cyflym ar gyfer unrhyw un sydd heb unrhyw symptomau o Covid.
"Mae'n gyflym ac yn hawdd iawn; dim ond ychydig funudau y mae'r prawf yn ei gymryd a bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon drwy neges destun mewn hanner awr.
"Mae'r ganolfan brofi ar agor rhwng 11:30 a 17:30 saith diwrnod yr wythnos."
Llun: Google