Y Cymry’n serennu yn y Gemau Paralympaidd
Mae'r Cymry yn parhau i serennu ar benwythnos euraidd yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.
Ar ôl i'r medalau cyntaf gan athletwyr o Gymru gael eu hawlio ddydd Sadwrn, mae'r llwyddiant wedi parhau ddydd Sul wrth i'r seiclwr James Ball a'r rhwyfwr Ben Pritchard gipio medalau aur.
Fe enillodd Ball, o Bont-hir yn Nhorfaen, y ras 1000m yn erbyn y cloc, gyda’i gyd-Gymro Steffan Lloyd fel tywysydd, brynhawn ddydd Sul.
Fe gurodd Ball ei gyd-Brydeiniwr Neil Fachie, a gipiodd y fedal arian, yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Nos Sul fe enillodd Sabrina Fortune o’r Wyddgrug fedal aur wrth daflu’r pwysau F20 gan dorri’r record byd gyda’i thafliad cyntaf o’r gystadleuaeth o 15.12m.
Daeth Rhys Darbey o'r Fflint i'r brig nos Sul wedi iddo ennill medal aur fel rhan o'r tîm cyfnewid nofio 'dull rhydd' 4x100m cymysg S14.
Yn gynharach ddydd Sul, daeth Ben Pritchard, sydd yn dod o'r Mwmblws, i'r brig yn y ras Sgwlio Unigol i ddynion PR1 yn y Stadiwm Vaires-sur-Marne.
Fe dreuliodd 1,500 medr cyntaf y ras y tu ôl i Giacomo Perini o'r Eidal.
Ond gyda 500 medr yn weddill, fe wnaeth Pritchard godi'r tempo i adael ei gyd-rwyfwyr ymhell y tu ôl, gan ennill y ras dros 10 eiliad yn gyflymach na Roman Polianskyi o Wcráin, a ddaeth yn ail o flaen Perini.
Daw llwyddiant Pritchard wedi i'r Cymry hawlio eu medalau cyntaf yn y Gemau ddydd Sadwrn.
Fe enillodd Matt Bush fedal aur yng nghystadleuaeth taekwondo K44 +80kg y dynion yn hwyr nos Sadwrn.
Fe gurodd Bush, 35, yr athletwr paralympaidd niwtral Aliaskhab Ramazanov 5-0 yn y rownd derfynol.
Dywedodd Bush: "Roeddwn i wedi ymladd ag ef o'r blaen, cryn dipyn," meddai.
"Mae'n ymladdwr da iawn ac roedd yn rhaid i mi fod ar fy ngêm ac mae hynny'n dod yn ôl at adeiladu cynllun gêm. Roedd yn anodd ond roedd yn rhaid i mi ymladd."
Fe enillodd Jodie Grinham fedal efydd yng nghystadleuaeth y bwa unigol yn gynharach.
Mae’r athletwraig, o Sir Benfro’n wreiddiol, yn saith mis yn feichiog ac wedi dweud na ddylai menywod deimlo eu bod yn gorfod “rhoi’r gorau i’w bywydau” er mwyn cael teulu,
Roedd Ms Grinham, sydd yn 31 oed, yn cystadlu am fedal ar ôl llwyddo i osod ei sgôr gorau erioed o 693 yn y rownd agoriadol ddydd Iau.
Daw yn sgil llwyddiant Paul Karabardak yn ennill medal efydd yn y dyblau tenis bwrdd.
Er iddo ef a’i bartner Billy Shilton golli yn y rownd gyn-derfynol, nid oedd gêm ychwanegol i herio am yr efydd, a oedd yn golygu eu bod yn hawlio lle ar y podiwm.
Lluniau: AFP/Wochit