Cyhoeddi enw'r dyn sy'n cael ei amau o lofruddio Charlie Kirk

Llofrudd Charlie Kirk

Mae'r FBI wedi cyhoeddi enw'r dyn sydd yn y ddalfa o dan amheuaeth o lofruddio'r ymgyrchydd gwleidyddol asgell-dde, Charlie Kirk. 

Bu farw’r ymgyrchydd dadleuol 31 oed ar ôl cael ei saethu yn ei wddf, mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Utah Valley ddydd Mercher.

Enw'r dyn sydd o dan amheuaeth o'i ladd ydy Tyler Robinson, ac mae'n 22 oed. 

Roedd yr heddlu wedi rhyddhau fideo o “berson a oedd o ddiddordeb iddynt”, sy'n dangos person yn neidio oddi ar do adeilad ym Mhrifysgol Utah Valley cyn dianc tua chyfeiriad coedwig fach, funudau ar ôl i Mr Kirk gael ei saethu.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, fe ddywedodd llywodraethwr talaeth Utah, Spencer Cox: "Mae gennym ni ef."

Fe ddywedodd fod aelod o deulu Tyler Robinson wedi siarad gyda ffrind teulu, a wnaeth gysylltu gyda Siryf yn cynnig gwybodaeth fod Robinson wedi cyfaddef, neu wedi awgrymu ei fod wedi cyflawni'r weithred.

Ychwanegodd Mr Cox fod teulu Mr Robinson wedi "gwneud y peth iawn" . 

"Hoffwn i ddiolch yn enwedig i deulu Charlie Kirk. Rwyf eisiau i ni feddwl amdanyn nhw wrth i ni sicrhau cyfiawnder yn yr achos yma," meddai.

Fe wnaeth Cyfarwyddwr yr FBI Kash Patel hefyd ddiolch i rieni Charlie Kirk, ei wraig a'i blant. 

"Mewn 33 awr, rydym ni wedi gwneud cynnydd hanesyddol i Charlie," meddai. 

Fe ddywedodd Mr Patel fod ardal y digwyddiad yn "fawr" ond ei fod wedi cael ei "brosesu yn gyflym" ac ei fod wedi gallu "cerdded trwy'r camau y gwnaeth Mr Robinson gymryd".

Ychwanegodd fod tystiolaeth fforensig wedi ei chymryd ac wedi ei ddadansoddi yn barod.

Dywedodd yr Arlywydd Trump yn gynharach ddydd Gwener fod gweinidog wedi chwarae rhan bwysig yn arestio'r person dan amheuaeth.

Dywedodd Mr Trump: "Yn y bôn, rhywun oedd yn agos iawn ato a'i roddodd i'r heddlu”, gan ychwanegu fod y person hwnnw wedi mynd at "y tad", a aeth wedyn at Farsial yr Unol Daleithiau.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.