
Llywodraeth Cymru yn 'methu cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg'
Llywodraeth Cymru yn 'methu cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg'
Mae Llywodraeth Cymru yn methu yn eu hymdrechion i gynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Fel rhan o’r nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr, mae'r llywodraeth yn ceisio recriwtio bron i 400 o athrawon yn ychwanegol bob blwyddyn.
Ond mae’r niferoedd sy’n cael eu hyfforddi yn agos iawn at y niferoedd sy’n gadael y proffesiwn gan olygu bod dim cynnydd tuag at y targed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymelliadau yn cael eu cynnig, fel bwrsariaethau, er mwyn annog pobol i astudio drwy’r Gymraeg.
Mae’r miliwn o siaradwyr yn rhan o gynllun Cymraeg 2050 y llywodraeth ac mae cynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad yr iaith yn un o’u prif amcanion i gyrraedd hynny.
Maen nhw’n dweud, yn fras, bod angen 225 o athrawon uwchradd ychwanegol bob blwyddyn, yn ogystal â 153 o rai cynradd, sy’n gyfanswm o 378.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar gyfer 2022/23 cafodd 396 o athrawon newydd eu hyfforddi ond fe adawodd 395 y maes.
Dywedodd Meirion Prys Jones, cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, nad yw’r ffigyrau yn sioc ac mae diffyg cynllunio er mwyn sicrhau digon o athrawon.
“Mae’n rhan o batrwm ehangach mewn ffordd ynglŷn â diffyg cefnogaeth i’r Gymraeg, yn ymarferol a strategol (gan y llywodraeth),” meddai.
Dywedodd bod y targed o filiwn o siaradwyr yn un “uchelgeisiol, da”, ond mai “ychydig o waith cynllunio a pharatoi sy’n digwydd” i’w gyrraedd.
“Pan mae rhywun yn edrych ar y data, mae’r cyfrifiad yn dangos fod y niferoedd wedi mynd lawr 2%, yr un nifer sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ag oedd yna yn 2010.
"Mae yna lai na hanner y niferoedd yn gwneud Lefel A yn Gymraeg yn gwneud hynny bellach felly mae’n rhaid gofyn y cwestiwn lle mae’r llwyddiant fan hyn?”
'Pryder'
Yn ôl pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, mae’r her o recriwtio wedi cynyddu ers y pandemig a bod prinder athrawon yn ysgolion Saesneg hefyd.
“Mae’r ffaith bod dysgu o fewn yr ystafell ddosbarth yn golygu nad yw mor hyblyg â swyddi proffesiynol eraill…a efallai fod hynny’n dylanwadu ar bobol wrth feddwl am yrfa,” meddai Dr Llinos Jones.
Dywedodd bod y llywodraeth yn gwneud eu gorau i recriwtio mwy drwy farchnata a chynnig bwrsariaethau gwahanol, ond ychwanegodd:
“Os nad ydi’r ffrwyth llafur yna’n cael ei amlygu ym maint y bobol sy’n ymgeisio am swyddi mae wir yn bryder.”

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda sefydliadau gwahanol i greu cyfleoedd i hyfforddi ac astudio yng Ngymraeg.
Mae prinder athrawon, yn enwedig ar gyfer y gweithlu Cymraeg mewn addysg, wedi cyrraedd “pwynt gwirioneddol argyfyngus”, yn ôl y corff.
Mae Rebecca Williams o’r coleg yn galw am system well ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg.
“Os nad ydyn ni’n gallu recriwtio digon o athrawon bydd e’n effeithio ar allu’r system addysg ar lefel ysgol i greu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr dyddiol o’r Gymraeg,” meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae cael gweithlu addysg digonol yn allweddol i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.
“Rydym yn darparu cymelliadau i athrawon newydd, yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ac yn ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.
“Rydym yn parhau i weithio gyda’r proffesiwn addysgu a phartneriaid wrth inni ddatblygu’r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.”