Amaeth: Canslo Gŵyl Wanwyn y Sioe Fawr
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi bydd eu Gŵyl Wanwyn yn dod i ben.
Daw hyn yn dilyn “adolygiad strategol cynhwysfawr” yn ôl y Gymdeithas.
Mae hyn yn golygu na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y gwanwyn nesaf.
Roedd cynlluniau ar gyfer yr Ŵyl Wanwyn ar ddydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Mai 2026 yn wreiddiol.
Mae’r penderfyniad yn galluogi’r Gymdeithas i “ganolbwyntio ar y Sioe Fawr yn yr haf,” meddai’r prif weithredwr Aled Rhys Jones.
Mae’r Ŵyl Wanwyn yn cael ei disgrifio ar wefan Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fel “dathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad gyda gweithgareddau cadw tyddyn wrth ei galon" ac yn “arddangos amrywiaeth wirioneddol cefn gwlad Cymru”.
Mae’r Ŵyl wedi denu hyd at 25,000 o bobl yn y gorffennol.
Dywedodd Y Sioe Fwr eu bod nhw’n bwriadu cynyddu nifer o brosiectau strategol gan gynnwys ailddatblygu Maes y Sioe yn Llanelwedd.
Fe gydd y rhain cyn cynnwys gwella’r systemau tocynnau a digidol, mwy o gefnogaeth i’r siroedd nawdd, ac “archwilio prosiectau newydd a ffyrdd arloesol o gyflawni amcanion elusennol y Gymdeithas.”
Ychwanegodd y Gymdeithas hefyd eu bod nhw’n “agored i archwilio cyfleoedd i agweddau ar yr Ŵyl Wanwyn, fel y sioeau ceffylau a chŵn, barhau yn annibynnol, gan sicrhau bod elfennau o'r digwyddiad a werthfawrogir yn fawr yn gallu parhau a ffynnu ar ffurf newydd.”
'Siom i lawer'
Dywedodd Prif Weithredwr Y Sioe, Aled Rhys Jones: "Rydyn ni’n hynod o falch o'r gwaith da sydd wedi cael ei wneud wrth lwyfannu’r Ŵyl Wanwyn dros y blynyddoedd.
"Mae hyn yn ganlyniad i ymroddiad ac angerdd y pwyllgor, dan arweiniad Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl, Mr Geraint James, yn ogystal â'r cyn-Gyfarwyddwyr Anrhydeddus, Cadeiryddion, ac aelodau niferus o staff, gwirfoddolwyr, arddangoswyr, masnachwyr a noddwyr sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol.
“Er ein bod yn deall y gallai'r newyddion fod yn destun siom i lawer, rydym eisiau mynegi ein diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Ŵyl Wanwyn ers i'r Gymdeithas gymryd yr awenau oddi wrth gylchgrawn Smallholder Magazine yn 2001."
Ychwanegodd: “Mae'r penderfyniad hwn yn nodi pennod newydd gyffrous i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth iddi edrych i'r dyfodol gyda ffocws o'r newydd, gan sicrhau bod ei digwyddiadau yn parhau i arwain y blaen ym maes sioeau amaethyddol yn y DU a thu hwnt, a hyrwyddo ei nodau strategol a’i phrosiectau yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.”