Caerdydd: Cyhuddo dyn o dwyll mewn achos heddwas ffug
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl i ddyn oedrannus gael ei dwyllo allan o filoedd o bunnoedd gan rywun oedd yn esgus bod yn swyddog yr heddlu.
Cafodd £16,000 ei ddwyn o law y dioddefwr oedd yn ei 80au, a hynny ar garreg ei ddrws ei hun ddydd Mercher diwethaf.
Roedd twyllwyr wedi ffonio'r dyn yn gynharach y diwrnod hwnnw a'i dwyllo i feddwl eu bod yn swyddogion yr heddlu.
Fe wnaethant ei orchymyn i dynnu arian parod cyn i rywun gyrraedd ei dŷ a dwyn yr arian o'i law.
Cafwyd ail ddigwyddiad tebyg yn ymwneud â dyn 78 oed o Laneirwg ddydd Llun.
Mae Nawaf Abdullahi, 20, o Islington, Llundain, wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ddau ddigwyddiad yma.
Fe wnaeth Abdullahi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau i wynebu dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflawni twyll trwy gamgynrychiolaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa am wrandawiad pellach yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ditectif Tom Moore, o Heddlu De Cymru: “Mae'r ymchwiliad hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed rhag twyll.
“Fel bob amser, rydym yn annog pobl i aros yn wyliadwrus, i gadw llygad am berthnasau sy'n agored i niwed ac adrodd am ddigwyddiadau i'r heddlu.”