
Mary a Beti: 'Cerddwn ymlaen'
Mary a Beti: 'Cerddwn ymlaen'
"Dwi ‘di cael fy nysgu bod yr awyr iach yn dda i chi."
Dyma eiriau Beti Llewelyn Jones, sydd yn 101 oed ac sydd yn dal i gerdded a mynd am dro yn ddyddiol.
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos fod nifer y bobl sydd yn 100 oed neu drosodd yng Nghymru bron wedi dyblu o gymharu â 20 mlynedd yn ôl.
Roedd yna 430 o bobl yng Nghymru yn 100+ oed yn 2004, o gymharu â 820 y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y garreg filltir o fod yn 100 oed ydy Beti Llewelyn Jones, ac mae cadw yn ffit wedi bod, ac yn parhau, yn bwysig iawn iddi.
"Dwi'n cofio fydda Miss Bishop yn yr ysgol yn cynnal sgyrsiau am sut i fwyta'n iach, a sut i gadw'n iach ag efo diddordeb mewn keep fit, ag o'n i'n gwrando arni hi, ac yn cymryd i mewn be o'dd hi'n ddeud ag yn cydweld efo hi er mai dim ond hogan fach o'n i," meddai wrth Newyddion S4C.
"Jyst bod yn gwneud petha’, ddim isda ar eich pen ôl yn gwneud dim byd, oedd neb yn fwy hoff o ddarllan na fi, ond oedd y great outdoors yn demtasiwn ofnadwy bob amser i mi."
Yn ddibynnol ar y tywydd, mae Mrs Jones yn ceisio mynd am dro bob dydd.
"Bob diwrnod os ydy hi’n ddigon braf, jyst mynd am dro, jyst cerdded, dio’m ots i ble," meddai.
"Dwi’n licio mynd heibio’r tai, a sbio ar y gerddi, dwi’n hoff iawn, neu mi o’n i’n gwneud lawer iawn o arddio, ag o’n i’n hoff iawn, iawn o arddio."

Mae Mary Rudall yn 99 oed, ac yn cerdded o gwmpas pentref Llanfairpwll yn ddiffael ddwywaith y dydd, unwaith yn y bore ac unwaith yn y prynhawn.
"Pam mae cerdded yn bwysig? Wel, mae’n amlwg, rhaid i mi ddweud... jyst i gadw yn heini," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwy waith y dydd, ag am jyst dros hanner awr bob un, chwith yn y bore ac yn y prynhawn i’r dde, a mynd i fyny’r ffordd hyd at y bys shelter gwyrdd i gadw yn iach, wrth gwrs."
Ychwanegodd: "Os dwi’n aros yn y cartref, dwi’n eistedd trwy’r dydd, a’r muscles yn mynd yn wan, pointless!"
Roedd 30 o ferched yn 105 oed a throsodd yn ôl yr ONS yn 2024, ond nid oedd unrhyw ddyn yng Nghymru yn 105+ oed.
O'r 330 o bobl a gyrhaeddodd y 100 oed yn 2024, roedd 260 ohonyn nhw yn ferched, a 70 yn ddynion.
"Dwi'n meddwl ar y cyfan bod merched yn gryfach na dynion, dim yn gorfforol yn unig, ond yn feddyliol hefyd," meddai Beti.
Neges Mary i unrhyw un hŷn fyddai i ddyfalbarhau gyda'u ffitrwydd os yw hynny yn bosib.
"Mynd ymlaen hefo fo, a chario ymlaen i gerdded, dyna i gyd."
'Byth yn rhy hwyr i ddechrau'
Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus Age Cymru, Rhian Morgan, fod cadw yn ffit yn hollbwysig i bobl hŷn.
"Mae cynnal neu adeiladu ffitrwydd, cryfder a chydbwysedd yn wirioneddol bwysig i bobl hŷn, gan ei fod yn helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn symudol am hirach a gall helpu i leihau'r tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau hirdymor," meddai wrth Newyddion S4C.
"Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau. Gall camau bach, syml arwain at fanteision mawr yn y dyfodol."
Ychwanegodd Ms Morgan fod yna sawl ffactor i egluro'r twf yn nifer y bobl sy'n byw tu hwnt i 100 oed.
"Rydym ni'n gwybod fod gwelliannau mewn mynediad at ofal iechyd ac ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, fel brechiadau, wedi chwarae rhan enfawr wrth wella disgwyliad oes, yn ogystal â gwelliannau mewn mesurau i fynd i'r afael â thlodi, a dietau gwell," meddai.