Carcharu dyn am ymosod ar blismon ger Porthmadog
Mae dyn 42 oed wedi cael ei ddedfrydu i 10 wythnos yn y carchar yn dilyn digwyddiad ger Porthmadog ddiwedd mis Awst.
Cafodd Mark Christopher Axon ei arestio ar ddydd Sul 24 Awst mewn maes gwersylla ym Morfa Bychan.
Fe'i cafwyd yn euog o ymosod ar weithiwr o'r gwasanaethau brys, bod yn feddw ac afreolus a bod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant.
Mae disgwyl iddo ymddangos eto yn Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Iau 2 Hydref i wynebu cyhuddiadau pellach yn ymwneud â threfn gyhoeddus a dinoethiad anweddus.
Mae'r heddlu wedi diolch i’r gymuned ac i bawb a gynorthwyodd gyda’r ymchwiliad.