Adroddiad Arbennig: Camdriniaeth dyfarnwyr rygbi yn achosi ‘creisis’ i'r gamp yng Nghymru

Rowan Musson / Jenny Davies

Mae rygbi llawr gwlad yng Nghymru yn wynebu “creisis” wrth i ddyfarnwyr roi’r gorau i’r gamp yn sgil “cynnydd” mewn camdriniaeth.

Mae nifer o bobl o fewn y gamp yng Nghymru wedi mynegi pryderon nad oes digon o ddyfarnwyr i gyflawni pob gêm ar hyn o bryd, gyda sawl un wedi rhoi'r gorau i ddyfarnu y tymor hwn.

Mae gwefan Newyddion S4C wedi cynnal arolwg ymysg dyfarnwyr Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Dyfarnwyr Rygbi Cymru, gyda 88 o unigolion – gan gynnwys dros chwarter dyfarnwyr cymunedol y wlad - yn cymryd rhan.

  • Fe wnaeth 93% o ymatebwyr ddweud eu bod wedi profi camdriniaeth lafar, gyda 12.5% yn dweud eu bod wedi profi camdriniaeth corfforol.
  • Fe ddywedodd 80% o ddyfarnwyr bod camdriniaeth gan gefnogwyr wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Roedd 60% o ddyfarnwyr yn credu bod ymddygiad chwaraewyr a hyfforddwyr wedi dirywio yn ystod yr un cyfnod.
  • Fe ddywedodd 15% o ddyfarnwyr eu bod yn bwriadu rhoi'r gorau i'r gamp ar ddechrau'r tymor hwn.

Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi’r gorau i ddyfarnu o ganlyniad i “sylwadau ymosodol”, mae Rowan Musson, o Geredigion.

Image
RM

Dywedodd Rowan wrth Newyddion S4C: “O’n i wedi cael digon ar yr abuse sydd wedi dod o’r bobl sydd yn gwylio’r gêms. 

“Edrych at y tymor newydd, mae’n teimlo’n drist i ddim bod mas ar y cae. Fi wedi colli rhywbeth sbesial.”

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gwadu bod diffyg dyfarnwyr ar y cyfan, ond yn derbyn bod diffyg mewn "rhai ardaloedd."

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Rygbi Cymunedol yr Undeb bod ystadegau'r Undeb yn awgrymu bod ymddygiad cefnogwyr rygbi yn “gwella” gyda digwyddiadau o gam-drin yn cael eu hadrodd mewn ddim ond 2% o gemau.

Dywedodd Mr John: “Ma’ rhaid i ni neud yn siŵr bod pobl yn respecto’r dyfarnwyr yn y canol, bod y ddisgyblaeth yn iawn ar, ac oddi ar y cae a ni’n neud code of conduct i’r chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a rhieni.

“Ond 'sa i’n siŵr beth yw'r crisis i ddweud y gwir.”

Image
Rowan Musson
Rowan Musson

"Doeddwn i ddim yn teimlo bod y sylwadau negatif werth yr effort dim mwy"

Wrth i’r tymor rygbi ddechrau'r penwythnos diwethaf, roedd Rowan Musson adref yn gwneud gwaith yn y tŷ yn hytrach 'na bod gyda chwiban yn ei law.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, fe fyddai’r gŵr o Flaenplwyf, Ceredigion, wedi treulio prynhawniau Sadwrn rhwng Awst a Mai ar gaeau rygbi gorllewin Cymru, yn dyfarnu gemau dynion, rhwng Adran 2 ac Adran 5.

Ond ar ôl iddo brofi sylwadau cas yn rheolaidd, gan gynnwys mewn “wyth neu naw” o’r 10 gêm ddiwethaf iddo ddyfarnu, fe benderfynodd roi’r gorau iddi.

 “Dwi wedi mwynhau dyfarnu dros y blynyddoedd, a dwi’n teimlo’n drist i roi e ar ôl nawr," meddai.

“Bron a bod pob gêm nawr, ti’n cael pobl yn dod lan i ti a dweud pethau fel ‘ti ddim wedi gweld hwn’  ac mae’n dod mwy a mwy pob gêm nawr."

Yn ôl Rowan, mae yn adnabod eraill sydd wedi cerdded i ffwrdd o’r gamp.

“Pan ddechreuais, roedd pawb yn gwrtais hyd yn oed oes oedden nhw'n anghytuno,” meddai. 

“Ond dros y ddau dymor diwethaf, mae pobl yn fwy aggressive yn y ffordd maen nhw’n siarad, rhai just yn bod yn gas. 

"Y cefnogwyr dwi’n meddwl sydd wedi mynd gwaethaf dros y blynyddoedd diwethaf, a doedd yr ‘enjoyment factor’ ddim yna dim mwy. 

“Doeddwn i ddim yn teimlo fel bod yr abuse a sylwadau negatif werth yr effort dim mwy. Weithiau fi’n teithio dwy neu dair awr am gêm, un ffordd, ac mae dy ddydd Sadwrn wedi mynd. 

“A ti’n dod nol yn teimlo fel bo ti wedi difetha’ diwrnod lot o bobl oherwydd y ffordd ti wedi dyfarnu.”

Image
Jenny Davies
Jenny Davies

“Unwaith nes i gael panic attack ar ôl y gêm.”

Mae Jenny ‘Treacle’ Davies, o Gaernarfon, wedi bod yn dyfarnu rygbi ers chwe mlynedd, a hynny ar ôl gyrfa ddisglair fel chwaraewr.

Fe lwyddodd i ennill 74 o gapiau dros Gymru, a'r llynedd, fe wnaeth Jenny ddyfarnu gêm menywod ryngwladol – y cyn chwaraewr rhyngwladol gyntaf o Gymru i gyflawni’r gamp.

Ond ei bara menyn yw dyfarnu gemau'r dynion, yn y Bencampwriaeth ac Adran Un y Gogledd.

“Fi yn mwynhau,” meddai Jenny Davies. “Fi 'di cwrdd â llawer o bobol newydd, ac mae llawer o bobl yn y clybiau yng ngogledd Cymru yn supportive.”

Mae Jenny yn dweud ei bod wedi profi mwy o gam-drin gan gefnogwyr ers pandemig y Covid-19.

"Fi’n meddwl bydd pob dyfarnwr wedi gael rhyw fath o abuse rhywle. 

“Mae’n digwydd ryw dri neu bedwar gwaith trwy’r flwyddyn i fi yn bersonol, ond fi di clywed am ddyfarnwyr eraill sydd wedi cael mwy o abuse.”

Image
JD

Ar un achlysur, dywed Jenny fod rhiant wedi gwneud sylwadau cas tuag ati yn ystod gêm bechgyn dan 16.

“Nath y rhieni ddweud, ‘You are the bleepest referee we’ve ever seen’. A ti’n teimlo’n upset wedyn fel ‘oh my god, have I made a huge mistake?’ Ti’n meddwl, should I give up my free time i neud hwn?”

Wrth adlewyrchu ar gêm arall yn ddiweddar, ychwanegodd Jenny: “Unwaith nes i gael panic attack ar ôl y gêm. Roedd fi wedi cael bagiau fi, peidio â siarad gyda neb, mynd i’r changing rooms a just crio. Wedyn doeddwn i ddim yn gallu cael anadl fi ac I was like panicking wedyn ar y llawr.

“Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r clwb wedyn, ond nes i fforshio fy hunain i fynd. Oedd llygaid fi yn goch, ac even then I was fighting back the tears.”

Ar ôl cael sgwrs gydag un o’i ffrindiau yn y clwb ac un o’r hyfforddwyr, dywedodd bod hynny wedi gwneud iddi deimlo’n well.

“Oeddwn i’n meddwl pan o’n i’n gyrru adre, ‘lucky I did that’ achos I would’ve got worse and I might never have refereed again.”

Fel dyfarnwr, mae hi’n dweud ei bod yn hapus gyda’r gefnogaeth y mae’n derbyn gan Undeb Rygbi Cymru, ond bod angen i glybiau wneud mwy i atal camdriniaeth gan gefnogwyr.

Image
John Freter
John Freter

“Dyw dyfarnwyr ddim yn tyfu ar goed.”

Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae’r cyn brifathro John Freter wedi hyfforddi cannoedd o ddyfarnwyr yn Lloegr, De Affrica ac yng ngorllewin Cymru. 

Ar un cyfnod, roedd hefyd yn fentor i’r dyfarnwr rhyngwladol o Loegr, Luke Pearce.

Nawr yn byw yng Nghastell Newydd Emlyn, John yw prif gynghorydd dyfarnwyr cymunedol yn rhanbarth y Scarlets.

“Y broblem yw bod pobl yn meddwl bod dyfarnwyr yn tyfu ar goed a bydd bob tro rhywun i ddyfarnu gêm,” meddai.

“Nid dyna’r achos bellach, ac yn rhanbarth y Scarlets, rydym ni mewn creisis, oherwydd mae yna lot yn llai o ddyfarnwyr nag oedd yna bum mlynedd yn ôl. 

“Prin does gennym ddigon i ddyfarnu’r gemau sydd wedi’u trefnu ar ddydd Sadwrn y tymor hwn. 

“Mi fydd yn dalcen caled i gyflawni pob un o’r gemau. Ac efallai bydd hynny’n ddigon i’r clybiau sylweddoli bod angen iddyn nhw i roi stop ar gamdriniaeth, achos nid yn unig mae’n difetha gemau bellach ac ypsetio’r dyfarnwr, ond mae’n golygu na fydd chwaraewyr yn cael gêm.

“Mae’n gur pen go iawn ac yn broblem fawr i’n hysgrifennydd gemau.”

Fel sawl un arall a wnaeth ymateb i arolwg Newyddion S4C, mae John yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i osod cosbau llymach ar y rhai sy’n camdrin er mwyn atal y broblem.

Fe ddywedodd: “Dwi’n meddwl y dylai pobl sy’n euog o gamdrin dyfarnwyr gael eu gorfodi i fynd ar gwrs dyfarnwr, fel rhan o’r sancsiwn. 

“Oherwydd os y byddwn nhw’n deall sut beth yw bod yn ddyfarnwr, efallai bydden nhw’n llai beirniadol a llai treisgar tuag atynt.”

Image
Geraint John
Geraint John

"Mae strategaeth ni i neud yn siŵr bod ni’n dod â mwy o ddyfarnwyr i mewn"

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Geraint John bod yr Undeb yn disgwyl cyhoeddi Pennaeth Dyfarnu newydd ar gyfer y gêm gymunedol.

“Bydd person sydd ddim ond yn edrych ar ôl y gêm gymunedol yn dod mewn, i neud siŵr sut ni’n datblygu’r dyfarnwyr, sut ni’n cael mwy o ddyfarnwyr, sut ni’n helpu nhw, sut ni’n cadw nhw mewn i’r gêm. 

“Bydd e’n gweithio yn y department i neud yn siŵr bod mwy o ddyfarnwyr yn dod mewn, dynion a merched, am y dyfodol. 

“Mae e yn strategaeth ni i neud yn siŵr bod ni’n dod â mwy mewn.”

Dywedodd Mr John nad oedd camdriniaeth wedi ei adrodd mewn 98% o'r 4,000 o gemau cymunedol y tymor diwethaf, ac yn gwadu bod yna greisis yn wynebu’r gêm oherwydd diffyg dyfarnwyr.

“Sai’n gwybod beth yw’r crisis i ddweud y gwir, bydd rhaid i fi siarad ‘da’r person yna.

“Ma’ department gyda ni i neud yn siŵr fod yn rhai llefydd ma llawer o ddyfarnwyr gyda ni, os ma rhei llefydd bod falle ma rhaid cael dyfarnwyr i drafeilio mewn. A falle yn y gorllewin, falle bod ddim digon ‘da ni. 

"Ond sa i’n siŵr beth yw'r crisis i ddweud y gwir.”

Prif Lun: Rowan Musson a Jenny Davies (Lluniau: DRL Photography / Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.