'Symud ymlaen': Cyfarwyddwr pêl-droed Abertawe yn gadael ar ôl saith mis
Mae cyfarwyddwr pêl-droed Clwb Pêl-droed Abertawe, Richard Montague, wedi gadael y clwb ar ôl saith mis yn ei swydd.
Roedd Montague yn gyfrifol am holl weithrediaidau pêl-droed y clwb, gan gynnwys recriwtio chwaraewyr, ers ymuno o Notts County fis Chwefror.
Roedd hefyd yn gyfrifol am benodi’r rheolwr dros dro, Alan Sheehan, ar gytundeb llawn amser ar gyfer dechrau’r tymor newydd.
Cafodd yr Elyrch haf lwyddiannus dan reolaeth Montague, gan arwyddo 12 chwaraewr ar ôl i’r clwb ddenu budddoswyr newydd, gan gynnws y pêl-droediwr enwog, Luka Modric a’r rapiwr, Snoop Dogg.
Ond mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y clwb eu bod wedi penderfynu “symud ymlaen gyda dull gwahanol" cyn ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.
Dywedodd y cyd-berchnogion Brett Cravatt a Jason Cohen: “Nid ar chwarae bach wnaethom y penderfyniad hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar am waith Richard yn ystod ffenestr drosglwyddo brysur yn yr haf.
“Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod pawb yn y clwb yn cyd-fynd â'n strategaeth. Rydym yn hyderus yn y tîm sydd gennym yn ei le, ar y cae ac oddi arno, i barhau i yrru'r clwb ymlaen.”