Llofruddiaeth Charlie Kirk: Lluniau yn dangos 'person o ddiddordeb' yn ffoi
Mae’r awdurdodau yn America wedi cyhoeddi fideo newydd o’r person maen nhw’n ei gredu sydd yn gyfrifol am lofruddio’r ymgyrchydd gwleidyddol asgell-dde, Charlie Kirk.
Mae’r fideo o’r “person o ddiddordeb” yn dangos person yn neidio oddi ar do adeilad ym Mhrifysgol Utah a dianc tua chyfeiriad coedwig, munudau ar ôl i Mr Kirk gael ei saethu.
Cafodd yr ymgyrchydd dadleuol 31 oed ei saethu yn ei wddf, cyn i'r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi'n ddiweddarach ei fod wedi marw.
Dywedodd yr FBI brynhawn Iau eu bod wedi dod o hyd i reiffl sy'n cael ei anfon i'r labordy i'w ddadansoddi.
Inline Tweet: https://twitter.com/FBISaltLakeCity/status/1966320840544227680
Ychwanegodd fod y person sy'n cael ei amau o lofruddio Mr Kirk yn dal ar ffo a'r gred yw ei fod yn ddyn "oedran coleg".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr FBI: “Gwelir yr unigolyn yn neidio oddi ar do adeilad ar ôl y saethu. Dringodd i fyny i do ar ôl iddo saethu a lladd Charlie Kirk, neidiodd oddi arno a rhedodd i ffwrdd.
“Fe adawodd wn a bwledi mewn ardal goediog ger y brifysgol. Roedd y dystiolaeth a gasglwyd o do’r lleoliad yn cynnwys olion esgidiau, ôl braich, ac ôl cledr.”
Mae lluniau ychwanegol sydd wedi eu rhyddhau gan yr awdurdodau yn Utah hefyd yn dangos “person o ddiddordeb”, yn gwisgo crys-t â baner yr UDA, het las ac esgidiau Converse glas.
Inline Tweet: https://twitter.com/UtahDPS/status/1966291959074738448
Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i’r person oedd yn gyfrifol am ladd Mr Kirk yn parhau, gyda’r FBI yn cynnig gwbor o $100,000 am wybodaeth amdano.