Athro o Gaerdydd yn gwadu cam-drin bachgen yn rhywiol

ITV Cymru
Llys y Goron Caerdydd (CC by SA)

Mae athro o Gaerdydd wedi gwadu cam-drin bachgen yn rhywiol.

Mae David O’Rourke, 43 oed, yn wynebu pedwar cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ac mae’n gwadu pob un.

Plediodd Mr O’Rourke yn ddieuog hefyd i dri chyhuddiad o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol, a dau gyhuddiad o achosi i blentyn wylio gweithred rywiol.

Nid oes modd enwi’r dioddefwr honedig am resymau cyfreithiol.

Clywodd gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener y bydd achos llys yn cael ei gynnal ar 6 Tachwedd, 2026, ac mae disgwyl iddo bara am hyd at chwe niwrnod.

Cafodd y diffynnydd ei ryddhau ar fechnïaeth tan y dyddiad hwnnw.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod Mr O’Rourke wedi’i wahardd o’i rôl fel athro yn Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd “nes fod yr achos cyfreithiol yn dod i ben”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.