Gemau Paralympaidd: ‘Pam ddylai menywod roi’r gorau i’w bywyd er mwyn cael teulu?’
Gemau Paralympaidd: ‘Pam ddylai menywod roi’r gorau i’w bywyd er mwyn cael teulu?’
Mae athletwraig sydd saith mis yn feichiog wedi dweud na ddylai menywod deimlo eu bod yn gorfod “rhoi’r gorau i’w bywydau” er mwyn cael teulu, wrth iddi edrych ymlaen at gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
Wedi iddi ennill medal arian yng nghystadleuaeth saethyddiaeth y tîm cymysg yng ngemau Rio yn 2016, bydd Jodie Grinham, sy’n wreiddiol o Sir Benfro, yn gobeithio ail-adrodd ei llwyddiant unwaith eto eleni.
Bydd Ms Grinham, sydd yn 31 oed, yn cystadlu am fedal ddydd Sadwrn yn y gystadleuaeth unigol, ar ôl llwyddo i osod ei sgôr gorau erioed o 693 yn y rownd agoriadol ddydd Iau.
Ac mae’n dweud na ddylai ei beichiogrwydd effeithio ar ei gallu i gystadlu, ac na ddylai menywod eraill fod dan bwysau i ddewis rhwng eu gyrfa a’u teulu chwaith.
Fe benderfynodd Grinham fynd yn feichiog ddechrau’r flwyddyn wedi iddi ddioddef sawl colled yn ystod beichiogrwydd yn y gorffennol, a hynny cyn ac ar ôl i’w mab, Christian, gael ei eni.
“Wnaethon ni golli tri cyn i mi feichiogi gydag ein mab - doedd e ddim yn syml.
“Felly wrth ystyried Paris, penderfynon ni nad oeddem am ddisgwyl bellach. Doedd e ddim am fod yn ddewis rhwng Paris neu gael teulu – ‘dyn ni’n byw yn 2024, pam na ddylwn i gael y ddau?
“Yn anffodus fe gollom ni un ddechrau’r flwyddyn, felly oeddem yn ymwybodol y byddai'n heriol.
“Oedd e jyst yn rhywbeth doeddwn ni ddim am oedi pellach er lles fy ngyrfa, o’n i eisiau’r ddau,” esboniodd wrth siarad â Newyddion S4C.
'Normaleiddio'
Jodie Grinham yw’r fenyw gyntaf o dîm Prydain a Gogledd Iwerddon i fod yn feichiog wrth gystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
Ond nid yw’r Gymraes, a gafodd ei magu yn Aberteifi yng Ngheredigion, wedi synnu mai hi yw’r gyntaf chwaith, meddai.
“’Dyn ni newydd gael y Gemau Olympaidd, ac mewn gwirionedd, dyw menywod ddim ond wedi cael yr hawl i gystadlu yno ers 100 mlynedd..., Paris oedd y tro cyntaf i ni weld cynrychiolaeth 50/50 rhwng dynion a menywod.
“Mae ‘di cymryd 100 mlynedd i gael cydraddoldeb yn y gynrychiolaeth sydd yn y Gemau.
“Felly o’r safbwynt yna, ydw i wedi synnu mai fi yw’r athletwraig gyntaf i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn saith mis yn feichiog? Na.”
Mae’n dweud fod angen “normaleiddio” yr hyn y gallai athletwyr beichiog ei gyflawni, yn enwedig wrth ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl gan fenywod beichiog o ddydd i ddydd.
“Os ydy e’n berffaith normal i mi weithio mewn swyddfa hyd nes i mi fod yn 39 wythnos yn feichiog, wedyn cael babi, mynd ar famolaeth gyda disgwyl i mi ddychwelyd o fewn chwe wythnos – fe ddylai bod hi’n berffaith normal i mi, fel athletwraig, gystadlu yn saith mis yn feichiog.”
'Tabŵ'
Mae Ms Grinham wedi canmol y gefnogaeth y mae hi wedi ei dderbyn gan staff y Gemau Paralympiadd yn ystod y misoedd diwethaf – gydag arbenigwyr iechyd yn sicrhau ei bod yn gyfforddus ac yn iach, ac aelodau staff eraill yn addasu ei chit wrth i’w baban barhau i dyfu.
Yn 31 oed, a hithau bellach yn byw yn dref Crawley ger Gatwick gyda’i theulu, mae’n gobeithio y bydd siarad am ei phrofiad o feichiogi yn gysur i fenywod eraill sydd yn wynebu sefyllfa debyg.
“Wrth i fenywod droi’n 30, maen nhw’n dechrau clywed: ‘Wyt ti am gael baban?’
“Mae ‘na gymaint o fenywod sydd yn ceisio beichiogi, ac mae ‘na gymaint sydd yn wynebu colled neu broblemau yn beichiogi, a dyw’r cwestiwn – ‘Pryd wyt ti am gael baban?’ – ddim yn helpu.”
Wrth siarad yn agored am wynebu colled yn ystod beichiogrwydd, mae Ms Grinham yn gobeithio mynd i’r afael a’r tabŵ sydd ynghlwm a’r profiad.
“Mae’n rhywbeth hynod o normal, ond mae’n mor tabŵ felly mae pobl yn dioddef ar eu pen eu hunain pan mae ‘na gymorth ar gael.
“Rwy’n gobeithio bod yn llais arall sydd yn dweud bod hyn yn normal, mae’n torri calon ac yn pwyso ar yr enaid – ond mae’n normal fod hyn yn digwydd,” meddai.