Newyddion S4C

Carchar i ddyn oedd nôl ar y ffyrdd lai na 24 awr ar ôl dedfryd am yfed a gyrru ger Bangor

15/08/2024
David Ellis Jones

Cafodd dyn a gafodd ei arestio am yfed a gyrru ger Bangor ei arestio eto lai na 24 awr ar ôl ei ddedfrydu am fod y tu ôl i olwyn car.

Roedd David Ellis Jones, 61 o Egremont, Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr, eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru am drosedd yfed a gyrru ym mis Ebrill.

Cafodd ei arestio toc cyn 16.00 ar ddydd Llun 22 Gorffennaf ger Bangor.

Fe ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru tra’r oedd wedi ei wahardd a heb yswiriant.

Yna dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y dyn wedi cael ei ddal yn gyrru unwaith eto ar yr A487 yn Llanwnda - lai na 24 awr ers iddo ymddangos yn y llys.

Cafodd ei gyhuddo a'i remandio i ymddangos gerbron y llys ac ers hynny mae wedi'i ddedfrydu i gyfanswm o 28 wythnos yn y carchar.

Dywedodd y Cwnstabl Daniel Edwards o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rydym yn gweld effeithiau dinistriol y rhai sy’n diystyru’n llwyr y sancsiynau a osodwyd gan y llysoedd ac yn parhau i yrru ar ôl cael eu gwahardd.

“Mae’n amlwg nad oes gan Jones unrhyw ystyriaeth i ddiogelwch gyrwyr eraill, ac mae’n anwybyddu’n llwyr y gwaharddiadau blaenorol a roddwyd iddo.

“Mae cael eich trwydded wedi’i thynnu oddi wrthych yn golygu bod safon eich gyrru wedi eich rhoi chi a defnyddwyr eraill ar y ffyrdd mewn perygl. 

“Rwy’n falch bod y llysoedd wedi cydnabod hyn ac wedi ei ddedfrydu i beth amser yn y carchar i fyfyrio ar ei weithredoedd a chyn iddo achosi niwed difrifol iddo’i hun neu i eraill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.