Newyddion S4C

Dedfryd o garchar wedi ei gohirio i ddyn o Loegr am yfed a gyrru ger Bangor

14/08/2024
Cyffordd 10 yr A55

Mae dyn o Loegr wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl bod “ymhell dros y terfyn” yfed a gyrru ger Bangor.

Roedd David Ellis Jones, 61 o Egremont, Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr, eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru am drosedd yfed a gyrru ym mis Ebrill.

Cafodd ei arestio toc cyn 16.00 ar ddydd Llun 22 Gorffennaff ger Bangor.

Sylwodd un o swyddogion yr heddlu arno’n gyrru mewn modd afreolaidd wrth iddo adael yr A55 ger Bangor ar gyffordd 10 i gyfeiriad Caernarfon.

Dilynodd y swyddog Daniel Edwards y car ac arwyddo arno i stopio ac fe fethodd David Ellis Jones brawf anadl ar ymyl y ffordd.

Ar ôl cael ei arestio a'i gymryd i’r ddalfa, cafodd brawf arall a ddangosodd ei fod mwy na ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol i yfed a gyrru (97 microgram fesul 100 mililitr o anadl tra mai 35 yw’r terfyn).

Daeth i’r amlwg ei fod eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon Workington ym mis Ebrill.

Fe ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddoe wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru tra’r oedd wedi ei wahardd a heb yswiriant.

Cafodd ddedfryd o 12 mis yn y carchar wedi ei gohirio, 100 awr o waith di-dâl i’w gwblhau o fewn 12 mis a gwaharddiad pellach ar yrru am bum mlynedd.

Bydd rhaid iddo hefyd dalu costau o £85 a £154 o ordal dioddefwr.

Dywedodd y Cwnstabl Daniel Edwards o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Roedd Jones ymhell dros y terfyn cyfreithiol i fod yn gyrru. 

“Byddai ei allu i ganolbwyntio a'i amser ymateb wedi gwaethygu yn ddifrifol ac roedd ei weithredoedd yn peryglu bywydau defnyddwyr eraill y ffyrdd.

“Dim ond eiliad y mae'n ei gymryd i golli rheolaeth ar eich cerbyd ond gall y canlyniadau bara am oes. 

“Peidiwch â mentro, arhoswch yn ddiogel a pheidiwch ag yfed cyn gyrru ar y ffordd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.