‘Dyfodol disglair’ ym myd bocsio i efeilliaid o Wynedd
‘Dyfodol disglair’ ym myd bocsio i efeilliaid o Wynedd
Mae gan efeilliaid o Wynedd "dyfodol disglair" ym myd bocsio, yn ôl eu hyfforddwr.
Mae Morgan a Meilir o Glynnog Fawr eisoes wedi cael eu cymharu i efeilliaid eraill o Gymru sydd wedi profi llwyddiant yn y gamp, Ioan a Garan Croft.
Enillodd y brodyr Croft o Grymych, Sir Benfro fedalau aur ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022.
Roedd Morgan a Meilir wedi dechrau eu taith i'r byd bocsio trwy fynd i wersi karate pan oeddynt yn 5 oed.
Ond wrth i'r ddau dyfu, fe benderfynodd y ddau eu bod nhw am ddechrau bocsio.
“Oedd Meilir a fi yn ffeindio karate ddiflas," meddai Morgan.
Dywedodd Meilir: “Oeddan ni wedi bod yn watshad bocsio efo dad ar y teledu tipyn a wnaethon ni drio karate ond doedden ni ddim yn mwynhau o felly wnaethon ni drio bocsio."
Bellach mae'r ddau yn eu harddegau ac yn aelodau o glwb bocsio Dyffryn ym Mae Colwyn.
Ym mis Mai eleni roedd y ddau wedi ennill ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Bocsio Ysgolion a Phobl Ifanc Cymru yn eu categori pwysau.
Mae Wes Jones, hyfforddwr yr efeilliaid yn dweud bod eu hymrwymiad i'r gamp yn rhoi addewid am ddyfodol disglair.
"Dros y blynyddoedd rydym ni wedi cael 61 pencampwr cenedlaethol, tri phencampwr Prydeinig a bocsiwr sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.
"Mae Morgan a Meilir wedi bod efo ni dros y tymor diwethaf, maen nhw'n ymrwymo’n fawr i ymarfer ac mae'r ddau yn gwella.
"Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn iddyn nhw."
Llun: Bocsio Cymru