Newyddion S4C

Gemau'r Gymanwlad: Aur ac efydd yn y bocsio i ddau frawd o Sir Benfro

07/08/2022
Ioan a Garan Croft

Mae Ioan Croft o Grymych wedi ennill medal aur yn y bocsio yng Ngemau’r Gymanwlad nos Sul.

Fe gurodd Stephen Zimba o Zambia yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.

Mae hyn yn ychwanegu at fedal efydd enillodd ei efaill Garan ddydd Sadwrn.

Dechreuodd y brodyr 21 oed focsio gyda'i gilydd yng Nghlwb Bocsio Aberteifi yn wyth oed.

Yn gynnar yn eu gyrfa, penderfynodd y bechgyn focsio mewn dosbarthiadau pwysau gwahanol er mwyn osgoi paffio yn erbyn ei gilydd. 

Ers hynny, mae'r brodyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli tîm Cymru a thîm Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ennill medalau arian ym Mhencampwriaethau Bocsio Ewropeaidd dan 22 oed yn Croatia, ym mis Mawrth.

Mae'r ddau hefyd wedi profi eu talent wrth symud ymlaen i baffio ar lefel dynion am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Bocsio Amatur Ewrop yn Armenia ym mis Mai. 

Daeth Ioan, sydd yn bocsio yn y dosbarth pwysau welter, adref gyda medal efydd tra enillodd Garan, sydd yn cystadlu yn y dosbarth canol ysgafn, fedal aur. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.