Cadarnhad y bydd y SeaQuarium yn Y Rhyl yn cael ei ddymchwel
Fe fydd adeilad un o atyniadau mwyaf poblogaidd Y Rhyl yn cael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau i ddatblygu promenâd y dref.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei fod yn ymgymryd â gwaith i ddymchwel yr adeilad oedd yn gartref i’r SeaQuarium.
Roedd SeaQuarium wedi bod yn un o brif atyniadau’r dref ers dros 30 mlynedd, yn denu 80,000 o ymwelwyr pan oedd yn ei anterth.
Ond fe wnaeth y busnes gau ei ddrysau am y tro olaf fis Tachwedd y llynedd, oherwydd yr effaith roedd gwaith y cyngor i drawsnewid y promenâd yn ei gael ar “les” yr anifeiliaid morol.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi cynnig yr adeilad i fusnesau eraill, ond nad oedd unrhyw un wedi mynegi diddordeb mewn cynnal eu busnes yno.
Mae gwaith y cyngor ar y promenâd, er mwyn gwella amddiffynfeydd y môr, wedi cychwyn ers Chwefror 2023, ac mae disgwyl iddo bara dwy flynedd a hanner.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Un o brif amcanion Gweledigaeth Canol Tref Y Rhyl yw gwella amlygrwydd glan y môr a chreu gwell cyswllt rhwng canol y dref â’r traeth.
“Fel rhan o hyn, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â gwaith i ddymchwel hen adeilad SeaQuarium i wella'r parth cyhoeddus a thacluso'r promenâd.
“Mae’r adeilad, sydd bellach yn 30 oed, wedi bod yn wag ers cau SeaQuarium ddiwedd mis Tachwedd 2023 ac nid yw bellach yn addas fel atyniad twristiaeth modern.
“Mae’r adeilad mewn lleoliad gwych ger glan y môr Y Rhyl gyda chysylltiadau â chanol y dref a’r traeth ond mae angen buddsoddiad sylweddol i’w wneud yn addas i’r pwrpas.
“Ar ôl ystyried yr holl opsiynau yn llawn, penderfynwyd y gellir gwneud gwell defnydd o'r safle.
“Mae'r Cyngor mewn trafodaethau ynghylch sut caiff y lleoliad gwych hwn ei ddefnyddio yn y dyfodol, wedi i’r adeilad gael ei ddymchwel."
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor grant o 85% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith Amddiffyn Arfordirol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y gellir rhoi’r gost o ddymchwel yr adeilad yn erbyn y grant hwn er mwyn gwneud y safle’n ddiogel ac yn lleoliad defnyddiol ar gyfer atyniad yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel y cynghorydd lleol ar gyfer ward Dwyrain Y Rhyl, rwy’n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i wella’r promenâd yn Y Rhyl.
“Dyma gyfle i weld y safle amlwg hwn sydd yng nghanol parth twristiaeth Y Rhyl yn cael ei weddnewid.
“Mae’n lleoliad gwych wrth ymyl yr Arena Ddigwyddiadau ac yn cysylltu canol y dref â’r traeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y datblygiadau ar bromenâd y Rhyl fel y gallwn wneud y gorau o un o draethau gorau gogledd Cymru.”
Rhagwelir y bydd y broses o ddymchwel yr hen adeilad yn cymryd rhwng dau a thri mis, gyda’r gwaith yn debygol o ddechrau yn yr hydref.
Bydd Balfour Beatty, y contractwr sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar y cynllun amddiffyn arfordir, yn ymgymryd â’r gwaith hwn fel rhan o’r rhaglen waith y maent yn ei chwblhau.