Y SeaQuarium yn y Rhyl yn cau ei ddrysau ar unwaith
Mae’r SeaQuarium yn y Rhyl wedi cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Llun.
Mae’r atyniad yn dweud ei fod wedi cau o ganlyniad i’r gwaith sydd yn cael ei gynnal ar bromenâd y dref gan Gyngor Sir Ddinbych, er mwyn gwella amddiffynfeydd y môr, a’r effaith y gall y gwaith hynny ei gael ar “les” yr anifeiliaid morol.
Mae’r SeaQuarium yn dweud eu bod yn ”cynorthwyo staff drwy’r broses o ddiswyddiadau”.
Roedd SeaQuarium, sydd wedi bod yn un o brif atyniadau’r dref ers dros 30 mlynedd, yn denu 80,000 o ymwelwyr yn ei hanterth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud y byddant yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth i’r cyhoedd wedi i “drafodaethau cyfreithiol cyfredol” gael eu cwblhau.
‘Dim opsiwn’
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y SeaQuarium: “Gyda chalon drom yr ydym yn adrodd y newyddion y bydd y SeaQuarium yn cau ei ddrysau'n barhaol o 4pm ddydd Llun Tachwedd 27, 2023.
“Daw’r penderfyniad hwn o ganlyniad i’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar Amddiffyn Môr Arfordirol ar Bromenâd y Rhyl. Er ein bod yn drist oherwydd ein bod yn cau, yn anffodus nid oes gennym unrhyw opsiynau eraill.
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a sicrhau lles ein hannwyl forloi ac anifeiliaid morol.
"Er budd lles yr anifeiliaid, byddwn yn eu hailgartrefu, ac mae’n hollbwysig i ni ein bod yn dod o hyd i'r cartref iawn ar gyfer ein holl anifeiliaid.
“Rydym yn falch i ddweud bod rhai o'n hanifeiliaid anhygoel eisoes wedi cael cynnig cartrefi newydd mewn acwaria a sŵau eraill ledled y DU ac rydym yn parhau i chwilio am y cyfleusterau gorau ar gyfer ein holl anifeiliaid.
“Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae ein haelodau staff ymroddedig yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio hwn a deallwn fod y cau hwn yn dod ag ansicrwydd a newid, ond rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo ein tîm drwy’r broses o ddiswyddiadau.
“Mae eu hymroddiad a’u hangerdd dros y SeaQuarium wedi bod yn amhrisiadwy, ac estynnwn ein diolch am eu hymdrechion diflino dros y 30 mlynedd diwethaf.
“Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad dyfnaf i’r gymuned leol a thu hwnt am y gefnogaeth ddiwyro rydych wedi’i dangos i ni drwy gydol ein blynyddoedd o weithredu.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r SeaQuarium ond ni all wneud sylw pellach oherwydd materion cyfreithiol cyfredol sy'n parhau.
“Ar ôl cwblhau'r trafodaethau hyn, bydd y Cyngor, ynghyd â'r SeaQuarium, yn cyhoeddi gwybodaeth bellach i'r cyhoedd.”