Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr wrth i Billy Joel berfformio yn Stadiwm Principality

09/08/2024
Billy Joel

Mae rhybudd i deithwyr yn y brifddinas wrth i 70,000 o bobl heidio i Stadiwm Principality i wylio Billy Joel.

Dyma fydd unig berfformiad y canwr o America yn Ewrop y flwyddyn yma.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cau nifer o ffyrdd ac mae disgwyl i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn brysurach na'r arfer.

"Mae disgwyl i draffordd yr M4 bod yn brysurach na'r arfer oherwydd y cyngerdd hwn - felly cynlluniwch o flaen llaw," meddai llefarydd.

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 07:00 i baratoi Gât 5 Stadiwm Principality a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Dyma restr lawn o'r strydoedd fydd ar gau ddydd Gwener, fe fyddan nhw'n ail-agor am 00:00 yn dilyn y cyngerdd.

- Heol y Dug
- Stryd y Castell 
- Stryd Fawr 
- Heol Eglwys Fair 
- Stryd Caroline
- Stryd Wood 
- Y Sgwâr Canolog 
- Heol y Porth
- Stryd y Cei 
- Plas y Neuadd
- Y Gwter
- Heol y Parc
- Stryd Havelock
- Heol Scott

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'nn ychwanegu mwy o le i deithwyr ar wasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd.

Mae gwasanaethau ychwanegol eisoes mewn lle er mwyn i bobl teithio i'r Eisteddfod ym Mhontypridd.

Mae gwasanaeth parcio a theithio yn cael ei weithredu gan y cyngor rhwng Lecwydd a Fitzhamon Embankment, gyferbyn â'r stadiwm.

Llun: Kevin Mazur / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.