‘Gadael eich car gartref’: Sut mae cyrraedd Maes yr Eisteddfod?
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni wedi annog teithwyr i gyrraedd y maes ar drên neu fws yn hytrach na char.
Daw’r alwad wrth i’r brifwyl gael ei chynnal ynghanol ardal drefol am y tro cyntaf ers Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd.
Mae traffig yn gallu bod yn drwm ym Mhontypridd peth bynnag, meddai’r trefnwyr, ac mae ffyrdd ychwanegol a rhai meysydd parcio ar gau oherwydd yr ŵyl.
Maen nhw’n rhybuddio pobol i beidio â gyrru i mewn i’r dref gan ddweud nad oes maes parcio ar gyfer yr achlysur yn agos i'r Maes.
“Mae disgwyl i'r ffyrdd o gwmpas ardal Pontypridd fod yn brysurach na'r arfer yn ystod yr wythnos,” medden nhw.
“Rydyn ni'n eich cynghori chi i beidio â gyrru i mewn i ganol y dref.”
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, eu bod nhw’n “annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth ymweld â'r ŵyl”.
“Lleolir y Maes funudau’n unig o’r orsaf drenau ac mae'n gyfle gwych i adael eich car gartref a mwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod,” meddai.
Mae teithwyr i’r Eisteddfod yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar gyda disgwyl mai 8.00 - 11.00 fydd yr adegau prysuraf.
Mae disgwyl i lawer o bobl adael y Maes rhwng 16.00 a 19.00.
Bydd nifer hefyd yn gadael am 22.00 wedi i’r perfformiad olaf bob nos orffen.
Ar ddydd Gwener 9 Awst bydd cyngerdd Billy Joel yn cael ei gynnal yn y stadiwm yng Nghaerdydd, sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn teithio drwy Bontypridd i'r brifddinas ac yn ôl.
- 1 Awst - 11 Awst: Bydd maes parcio Heol y Weithfa Nwy (Gas Road) yn cael ei gyfyngu i ddeiliaid trwyddedau yn unig.
- 3-10 Awst: Dim ond cerbydau a ganiateir a fydd yn cael mynediad at Stryd y Taf o'r gyffordd â Stryd y Bont, a hynny rhwng 9.00-1.00.
- 3-10 Awst: Bydd Pwll Nofio'r Ddraenen Wen yn cau fel bod modd darparu cyfleuster Parcio a Theithio'r Eisteddfod ar y safle.
- 3-11 Awst: Bydd Maes Parcio Stryd y Santes Catrin yn cau i'r cyhoedd ac yn cael ei ddefnyddio yn faes parcio hygyrch yn ystod yr ŵyl.
Inline Tweet: https://twitter.com/GDEisteddfod/status/1818587806848979039
Car
Os oes rhaid mynd a char i’r Eisteddfod, mae’r trefnwyr yn annog teithwyr i beidio â defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref.
Yr unig eithriad i hynny yw os yw pobl yn gymwys i ddefnyddio'r maes parcio hygyrch.
Mae yna ddau faes parcio a theithio ar gyrion y dref sy’n cynnig gwasanaeth bws gwennol 20 munud i’r maes.
Dylai teithwyr o’r gogledd, a’r rheini sy’n teithio o gyfeiriad Merthyr Tudful, barcio ym maes parcio’r gogledd yn Abercynon (cod post CF45 4UQ).
Lleolir y maes parcio ar gyfer ymwelwyr o Gaerdydd a’r de yn Y Ddraenen-wen (cod post CF37 5AL).
Mae unrhyw un sydd eisiau defnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn cael eu hannog i gofrestru arlein.
Mae parcio cyfyngedig ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym maes parcio Stryd y Santes Catrin yng nghanol Pontypridd (cod post CF37 2TB).
Trenau
Mae teithio ar drên yn cael ei annog fel “dewis gwych” gan y teithwyr sy’n nodi bod hyd at 12 trên yr awr yn rhedeg drwy Bontypridd.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw wedi trefnu gwasanaethau ychwanegol er mwyn “darparu ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr a ddisgwylir”.
Mae wyth trên yr awr rhwng Caerdydd a Phontypridd, a gwasanaethau i Aberdâr, Treherbert a Merthyr Tudful.
Bydd angen i deithwyr sy'n bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rhymni newid yng Nghaerdydd Heol y Frenhines neu yng Nghaerdydd Canolog.
Gall y rhai sy'n dal y trên o Gaerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd fanteisio ar y gwasanaeth uniongyrchol newydd i Bontypridd.
Mae'r gwasanaeth Cymorth i Deithwyr ar gael i deithwyr sydd angen cymorth ychwanegol.
Bws
Yn ystod yr Eisteddfod, bydd cwmnïau bysiau lleol yn cynnig gwasanaethau bysiau yn fwy aml ac yn hwyrach
Bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ail-gyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf rhwng 22 Gorffennaf a 1 Medi.
Mae’r trefnwyr yn rhybuddio y bydd gorsafoedd ac arosfannau bysiau yn brysurach nag arfer ar adegau teithio poblogaidd.
Cerdded a beicio
Gyda Llwybr Taf yn gyfleus mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn dewis cerdded neu feicio i gyrraedd Pontypridd.
Bydd digonedd o fannau cloi beiciau wedi’u gosod y tu allan i’r ddwy fynedfa i’r maes, medden nhw.
Bydd modd hefyd gerdded neu feicio o’r maes carafanau a gwersylla i’r Maes ar hyd llwybr dynodedig diogel a phwrpasol.
Cynhelir yr Eisteddfod rhwng 3 a 10 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.