Llafur yn gwrthod caniatáu i Andy Burnham sefyll mewn is-etholiad

25/01/2026
andy burnham a keir starmer

Mae'r Blaid Lafur wedi gwrthod caniatáu i Andy Burnham sefyll mewn is-etholiad ar gyfer Senedd San Steffan. 

Roedd adroddiadau y gallai rhai sy'n agos at y Prif Weinidog Syr Keir Starmer geisio atal Maer Manceinion Fwyaf rhag sefyll yn isetholiad Gorton a Denton yn sgil pryderon y gallai arwain at ras arweinyddiaeth, ond fe gadarnhawyd ddydd Sul na fyddai modd i Burnham sefyll gan y byddai hynny yn agor y ffordd i sbarduno etholiad ar gyfer y rôl o Faer Manceinion, ac y byddai'r effaith economaidd o ariannu ymgyrch yn ormod i'r blaid.

Roedd Burnham wedi cyflwyno ei gais i ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ar yr unfed awr ar ddeg, gan fod y rhestr enwebiadau yn cau am 1700 ddydd Sadwrn.

Ond cyn i Andy Burnham gael ei gadarnhau fel ymgeisydd, roedd yn rhaid i bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid gymeradwyo hynny.

Roedd Burnham, sydd yn gyn-aelod cabinet o dan Gordon Brown, wedi dweud ei fod eisiau cefnogi Llywodraeth Lafur yn hytrach na'i thanseilio. 

Fe wnaeth AS presennol Gorton a Denton Andrew Gwynne gamu lawr ddydd Gwener am resymau iechyd.

Mewn llythyr a gafodd ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol i gyhoeddi ei fwriad i sefyll, dywedodd Burnhamfod ei fod wedi gadael San Steffan bron i ddegawd yn ôl am ei fod yn credu "nad oedd yn gweithio i bobl yn ein rhan ni o' r byd" ac fel Maer ei fod wedi "ceisio arloesi ffordd wahanol o wneud pethau".

Ond ychwanegodd ei fod yn teimlo fod yr "angen i ddychwelyd" am ei fod yn credu fod angen newidiadau tebyg ar lefel genedlaethol. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.