Owain Glyndŵr yn ysbrydoli bathodyn newydd Clwb Pêl-droed Caernarfon

Llun: CPD Caernarfon
CPD Caernarfon

Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon wedi datgelu bathodyn newydd sydd wedi ei ysbrydoli gan Owain Glyndŵr.

Mewn cyhoeddiad nos Iau fe ddywedodd y clwb y bydd y bathodyn newydd yn cael ei ddefnyddio o'r tymor nesaf, sef 2026/27, ymlaen.

Mae'r bathodyn newydd yn cadw lliwiau gwyrdd a melyn y clwb, ac yn cynnwys tarian a draig sydd yn dal cleddyf.

Dywedodd y clwb mai cefnogwyr sydd wedi bod "wrth galon" y dyluniad newydd, sydd hefyd yn adrodd hanes Owain Glyndŵr.

"Ein hymchwil a'r ymgynghoriadau â'r cefnogwyr arweiniodd at stori amlwg: Owain Glyndŵr yn codi'r ddraig aur ar Dwthil, cyn ei ymosodiad tuag at Gastell Caernarfon," meddai'r clwb.

"Un o olygfeydd mwyaf eiconig hanes Cymru, yn ein tref ni, dros ein pobl ni.

"Gan ddefnyddio'r ddraig werdd o'r crest presennol fel sail, ychwanegom ein cyffyrddiad ni, gan greu 'draig Dre', ein draig ni."

Image
Llun: CPD Caernarfon
Elfennau bathodyn newydd y clwb. (Llun: CPD Caernarfon)

Ychwanegodd y clwb: "Cleddyf Glyndŵr oedd y cam nesaf, gan greu datganiad clir 'da ni yma. A dyna'n union beth ydi CPD Tref Caernarfon: clwb dewr, balch, a chanolog i'n gefnogwyr.

"Cafodd y dyluniad ei ddewis gan y cefnogwyr ar noson gyffrous, a bellach mae'n fwy na dim ond braslun newydd - mae'n symbol o'n hanes, ein cymuned, a'n dyfodol fel clwb Cymraeg, balch a dewr," medden nhw.

'Cymreicaf'

Dywedodd Paul Evans, cadeirydd y clwb ei fod yn teimlo bod angen bathodyn newydd.

Mae'r bathodyn yn adlewyrchu "hanes, treftadaeth a hunaniaeth y clwb," meddai.

"Roeddem ni'n teimlo bod angen bathodyn newydd, modern, sydd yn ein cynrychioli ni fel clwb heddiw," dywedodd.

“Rydym ni'n credu mai ni yw'r clwb pêl-droed Cymreiciaf yn y byd, ac mae'r dyluniad newydd yma yn adlewyrchu ein hanes, ein treftadaeth a'n hunaniaeth drwy ddefnyddio draig a chleddyf Owain Glyndŵr.

"Ar ôl gweithio'n agos gyda'r cefnogwyr ar hyd y broses, rydym ni i gyd yn teimlo'r cyffro wrth i'r bathodyn gael ei ddatgelu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.