Cynlluniau i ddymchwel rhan sylweddol o waith dur Tata Steel ym Mhort Talbot

Tata Steel Port Talbot

Fe fydd rhan sylweddol o waith dur Tata Steel ym Mhort Talbot yn cael ei ddymchwel.

Daw hynny ar ôl i gynlluniau gael eu cyflwyno i Gyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn penderfynu sut y bydd ffatri sinter, adeiladau cyfagos a chyfarpar yn cael eu tynnu i lawr.

Mae sintro yn broses ddiwydiannol tymheredd uchel sy'n asio powdrau metel neu fwynau at ei gilydd, ond ni fydd angen y ffatri fel rhan o waith gwerth £1.25 biliwn ar y safle i gynhyrchu dur gyda llai o allyriadau carbon deuocsid.

Caeodd Tata y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn 2024, gyda'r cwmni'n dweud eu bod yn colli £1m bob diwrnod.

Rhoddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ganiatâd cynllunio i'r ffwrnais arc drydan newydd ym mis Chwefror, ac mae disgwyl iddi fod yn weithredol erbyn dechrau 2028.

Gallai’r ffwrnes drydan newydd fod yn un o rai mwyaf y byd, gyda'r gallu i gynhyrchu 3.2 miliwn tunnell o ddur y flwyddyn.

Bydd y cynlluniau i ddinistrio hen adeiladau a chyfarpar yn cael eu rhannu yn wyth cam, yn ôl cynllunwyr.

Bellach mae modd cychwyn ar y camau cyntaf, ond fe fydd angen caniatâd gan y cyngor cyn parhau â'r camau nesaf.

 
 

 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.