Diwrnod Santes Dwynwen: 'Pawb yn haeddu stori gariad eu hunain'

Love Stories Caerdydd

A hithau'n Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae perchennog y siop llyfrau rhamant gyntaf yng Nghymru yn dweud bod "pawb yn haeddu stori gariad eu hunain" wrth i'r genre dyfu mewn poblogrwydd.

Cafodd Aimee Cummings, 31, o Gasnewydd y syniad i agor Love Stories yng Nghaerdydd ar ôl iddi ymweld â The Ripped Bodice yn Efrog Newydd.

Dywedodd bod y siop binc yn Brooklyn sy'n dathlu nofelau rhamant wedi creu argraff arni, gan ei bod yn cynnig ystod eang o straeon cariad.

"Dwi'n meddwl bod pawb yn haeddu stori gariad eu hunain, sy'n beth cheesy i ddweud," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ond dwi'n meddwl mai fy hoff beth am lyfrau rhamant ydi pan dwi'n eu darllen, dwi'n cael y teimlad tynn 'na yn fy mrest.

"Dwi'n teimlo'n gynnes y tu mewn, a dwi'n meddwl bod pawb yn haeddu teimlo fel 'na."

Mae 116 o siopau llyfrau yng Nghymru, gyda 64 ohonyn nhw'n siopau annibynnol - cynnydd o 36% ers 2017.

Yn ôl Cymdeithas y Llyfrwerthwyr, siopau llyfrau arbenigol fel Love Stories sy’n arwain y twf mewn siopau annibynnol.

O ffantasi i ramant ffeithiol

Ar ôl dychwelyd o Efrog Newydd, penderfynodd Aimee roi'r gorau i'w gwaith mewn prifysgol i agor ei siop lyfrau ei hun.

Mae hi a'i gŵr Charlie Seddon bellach wedi gwireddu'r freuddwyd honno trwy agor Love Stories yn Arcêd y Castell yn y brifddinas ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Aimee, sy'n rhedeg y siop o ddydd i ddydd, ei bod wedi dewis mwy na 1,000 o lyfrau rhamant wahanol ar draws 14 is-genre, gan gynnwys llyfrau cyfoes, ffantasi, hanesyddol, LHDTC+, oedolion ifanc, ffuglen wyddonol, a rhamant ffeithiol.

"Dwi'n falch iawn bod pobl sy'n dod i'r siop yn gallu dod o hyd i stori sy'n eu cynrychioli nhw ar ein silffoedd - boed yn stori gariad cwiar, yn stori gariad gyda chymeriadau pobl o liw, neu efallai gyda chymeriadau hŷn," meddai.

Image
Love Stories Caerdydd
Mae Aimee a Charlie yn cynnig dros 1,000 o lyfrau rhamant gwahanol

Ychwanegodd: "Dwi wir yn credu bod pawb yn haeddu darllen stori sy'n eu cynrychioli nhw, a'u bod nhw'n teimlo'n ddiogel - mae hynny'n bwysig iawn i mi."

Yn sgil poblogrwydd y gyfres deledu Heated Rivalry, dywedodd Aimee bod straeon cariad yn y byd chwaraeon yn "hedfan oddi ar y silffoedd".

"Mae straeon cariad chwaraeon yn boblogaidd iawn ar y funud, a 'da ni'n gwerthu lot o lyfrau rhamant cowboi," meddai.

"Dwi wedi sylwi hefyd bod llyfrau paranormal wedi dod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar.

"Felly mae'n gyffrous iawn gweld y niches bach o fewn y genre."

Image
Aimee Cummings
Yn ôl Aimee, mae llyfrau rhamant chwaraeon yn boblogaidd iawn

Er bod llyfrau rhamant wedi dod yn boblogaidd iawn, mae Aimee yn dweud bod stigma o amgylch y genre yn parhau.

"Yr hyn 'da ni'n ceisio ei sicrhau ydi ein bod ni'n creu amgylchedd cynhwysol," meddai.

"Da ni eisiau i bobl ddod i mewn a theimlo y gallan nhw sgwrsio am eu hoff genre.

"A gallai hynny fod mor rhyfedd a mor wych ag yr ydych yn ei ddymuno!"

Disgyn mewn cariad gyda rhamant

Yn ôl Cymdeithas y Llyfrwerthwyr, mae siopau llyfrau arbenigol wedi bodoli erioed.

Cyn dyddiau'r we roedd siopau arbenigol yn dueddol o ganolbwyntio ar hobïau penodol fel cerdded.

Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae siopau sy’n arbenigo mewn genres poblogaidd, fel rhamant, wedi dod i’r amlwg.

Cafodd siop llyfrau rhamant gyntaf y DU, Book Lovers Bookshop, ei hagor yng Nghaeredin yn 2024.

Daeth hynny ar adeg pan fo gwerthiant llyfrau rhamant wedi cynyddu o £24 miliwn yn 2019 i £69 miliwn yn 2024.

Yn ôl rheolwr polisi’r gymdeithas, Simon Armstrong, mae’r twf yn cael ei arwain gan effaith y pandemig a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi'n meddwl bod nifer o ffans rhamant eisiau symud o fforymau ar-lein a sylwadau TikTok a siarad go iawn am yr hyn maen nhw mor angerddol amdano, ac mae'r siopau llyfrau sy'n arbenigo mewn genre penodol yn le i wneud hynny," meddai.

"Mae'n gyfuniad o gariad at y genre a'r angen 'ma mewn byd sy'n gynyddol ar-lein o fod eisiau lle i gyfarfod wyneb yn wyneb a chysylltu gydag eraill."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod arbenigo mewn genre yn galluogi siopau annibynnol i gystadlu gydag arwerthwyr mawr fel Amazon.

"Os ydi rhywun yn dod i mewn i'r siop ac yn dweud eu bod yn hoffi llyfrau rhamant cowboi, mae'r person yn y siop yn gallu dweud, 'Dwi wedi darllen 10 ohonyn nhw a dyma'r un gorau i ti'," meddai.

"Ni all algorithmau ar-lein gystadlu gyda hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.