Harry Wilson yn 'nerfus a chyffrous' ar gyfer gêm ail-gyfle Cwpan y Byd Cymru
Mae ymosodwr Cymru a Fulham Harry Wilson wedi dweud ei fod yn "nerfus a chyffrous" ar gyfer gêm ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Bosnia a Herzegovina ddiwedd Mawrth.
Sgoriodd Wilson gyda chic rydd i ennill y gêm i Fulham mewn amser ychwanegol ddydd Sadwrn yn erbyn Brighton, ac mae wedi sgorio wyth gôl y tymor yma hyd yn hyn.
Fe ymunodd Wilson â Fulham ar fenthyg yn 2021, ac mae bellach wedi sgorio mewn tair gêm olynol gartref, gan gynnwys yn erbyn Brighton, Chelsea a Lerpwl.
Mae Fulham bellach yn y seithfed safle wedi iddyn nhw ennill pump o'u wyth gêm ddiwethaf yn y gynghrair;.
Fe fydd Cymru yn wynebu Bosnia a Hertsegofina yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026.
Os ydyn nhw'n fuddugol, fe fyddant yn wynebu enillwyr gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon, gyda Chymru yn eu herio mewn gêm gartref yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Wrth gael ei holi ar ôl y gêm yn erbyn Brighton ddydd Sadwrn, fe ddywedodd Wilson ei fod yn "nerfus a chyffrous" at y gêm ddiwedd Mawrth.
"Dyma'r math o gemau 'dach chi eisiau bod yn rhan ohonyn nhw, 'dan ni wir eisiau cael ein gwlad i Gwpan y Byd arall," meddai.
"'Dan ni'n gwybod ei bod hi am fod yn gêm anodd iawn, ond mae'r fantais gartref yn enfawr.
Ychwanegodd: "'Dan ni'n gwybod efo'r Wal Goch y tu ôl i ni sut fath o berfformiadau y gallwn ni greu, ac fe wnaethom ni ddangos hynny ym mis Tachwedd.
"Dwi'n gobeithio y bydd yr hogiau i gyd yn aros yn ffit a bod pawb yn gallu chwarae, a 'dan ni'n barod i ymosod ym mis Mawrth."