Dyn wedi ei saethu'n farw gan swyddogion yn yr un ddinas â gafodd George Floyd ei ladd

alex pretti.jpg

Mae dyn 37 oed wedi ei saethu'n farw gan swyddogion mewnfudo ffederal yn ninas Minneapolis yn UDA.

Roedd Alex Pretti  yn nyrs uned gofal dwys. 

Fe ddigwyddodd y digwyddiad fore Sadwrn yn ne Minneapolis am tua 09:05 amser lleol. 

Yn yr un ddinas yn 2020, fe gafodd George Floyd ei ladd wedi i blismon osod ei ben-glin ar ei wddf, gan achosi iddo fygu. Yn sgil marwolaeth George Floyd, fe ddaeth symudiad Black Lives Matter yn amlwg, gan arwain at brotestio a gwrthdystiadau ar draws y byd.

Daw'r digwyddiad hwn hefyd lai na thair wythnos wedi i Renee Good gael ei saethu'n farw gan asiant mewnfudo yn y ddinas. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diogelwch Mewnol Llywodraeth yr Unol Daleithiau Kristi Noem fod asiantau wedi tanio "ergydion amddiffynnol" ar ôl i Pretti "ymateb yn dreisgar", tra bod Llywodraethwr Minnesota, Tim Walz yn dweud bod y ffordd y mae'r awdurdodau ffederal yn adrodd y digwyddiadau yn "nonsens" a "chelwyddau".

Mae'r Arlywydd Trump wedi cyhuddo maer Minneapolis a'r Llywodraethwr Walz o annog "gwrthryfel".

Mae tystion, swyddogion lleol a theulu Mr Pretti wedi herio honiadau Adran Diogelwch Mewnol, gan ddweud fod Mr Pretti yn gafael mewn ffôn yn ei law, yn hytrach nag arf. 

Fe wnaeth ei deulu gyhuddo Gweinyddiaeth Trump o ledaenu "celwyddau afiach" am yr hyn ddigwyddodd, gan ychwanegu: "Plis dewch â'r gwir allan am ein mab."

Yn sgil marwolaeth Ms Good dair wythnos yn ôl, fe gafodd protestiadau eu cynnal yn y ddinas Minneapolis wedi i aelod o asiantaeth gwrth-mewnfudo anghyfreithlon ICE saethu'r ddynes 37 oed yn farw.

Dywedodd Adran Diogelwch Mewnol Llywodraeth yr Unol Daleithiau fod y ddynes, Renee Nicole Good, yn "derfysgwr treisgar" a geisiodd fwrw swyddogion yr asiantaeth â char yn y ddinas yn nhalaith Minnesota.

Fe wnaeth Maer Minneapolis, Jacob Frey feirniadu’r asiant ICE am “ddefnyddio grym mewn modd ddi-hid a arweiniodd at farwolaeth rhywun”.

Dywedodd Cyngor Dinas Minneapolis mai dim ond "gofalu am ei chymdogion" oedd Nicole Good pan gafodd ei saethu a'i lladd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.