Dyn 29 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn
Mae dyn 29 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd ger Pentraeth ym Môn fore Sul.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5025 ychydig wedi 06:45 rhwng Pen-Y-Garnedd a garej Pentraeth Automotive.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys cerbyd llwyd Peugeot 208 a cherbyd aur Audi A5 Quattro.
Bu farw gyrrwr 29 oed y Peugeot yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Fe gafodd gyrrwr 22 oed y cerbyd arall ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Katie Davies o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.
“Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A5025 tua 06:30 ddydd Sul, ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad - neu a allai fod â lluniau dashcam perthnasol - i gysylltu cyn gynted â phosibl."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000067199.