Rhys Meirion: 'Diagnosis canser wedi newid fy mywyd'

Rhys Meirion

Mae'r canwr clasurol Rhys Meirion yn dweud fod derbyn diagnosis o ganser y coluddyn y llynedd wedi "newid ei fywyd".

Roedd Rhys Meirion yn siarad fel gwestai ar raglen Heledd Cynwal ar BBC Radio Cymru fore Sul.

Yn gynnar yn 2025, fe dderbyniodd Rhys brawf sgrinio'r coluddyn drwy'r post cyn profi symptomau yn cynnwys gwaed yn ei garthion, ac fe gafodd ei gyfeirio am golonosgopi ym mis Chwefror 2025.

"Mae o'n newid dy fywyd di, allith o'm peidio, mae bob dim yn dod â chdi lawr i'r ddaear, ac mae'n gwneud i chdi feddwl am dy orffennol di a dy ddyfodol di," meddai.

"Un waith dan ni yma, wnaeth fy nharo fi mai un cyfle sydd ganddo ni ac mae bob dydd yn bwysig ac yn werthfawr.

"Dwi'n lwcus ofnadwy, ges i wybod ar ôl y llawdriniaeth ym mis Mai y llynedd fod o wedi mynd i gyd."

Wrth brosesu'r newydd fod ganddo ganser, fe ddywedodd Rhys Meirion fod y diweddar Mike Peters wedi ei ysbrydoli i fod yn gadarnhaol wrth wynebu triniaeth.

Fe aeth Rhys ymlaen i ddisgrifio ei gyfeillgarwch gyda chyn-ganwr The Alarm o Dyserth, ac iddo addo i'w gyfaill y byddai'n perfformio cân o'i eiddo yn arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2026. 

Fe fydd Rhys yn perfformio'r gân mewn rhaglen arbennig ar S4C ar 1 Mawrth, ynghyd â dau o feibion Mike, Dylan ac Evan.

"Roedd y ffordd roedd Mike wedi ymdrin â'i gancr o, dros 30 o flynyddoedd yn ôl yn '95 gafodd o ddiagnosis, ac oedd y ffordd fod o mor bositif ac yn brwydro efo gwên ar ei wyneb drwy'r amser, roedd yn wers ac yn ysbrydoliaeth i mi yn fy sefyllfa i," meddai.

Image
rhys meirion

Yn dilyn ei ddiagnosis, derbyniodd Rhys Meirion lawdriniaeth robotig a wnaeth bara bron i wyth awr yn Ysbyty Gwynedd dan ofal y llawfeddyg Mr Steve Dixon ym mis Mai y llynedd.

Fe ychwanegodd Rhys ar y rhaglen: "Roeddwn yn ffodus iawn eu bod nhw wedi darganfod y canser yn gynnar, a fod yr afiechyd i gyd wedi cael ei dynnu yn ystod y llawdriniaeth, ac felly doedd dim rhaid i mi gael cemotherapi na radiotherapi a ballu.

"Dwi'n rhan o gynllun pum mlynedd rŵan, sy'n grêt o beth [lle mae'r meddygon yn cadw golwg ar bethau am gyfnod o bum mlynedd] a dwi wedi bod dwy waith rŵan, a fyddai'n mynd eto mis nesa, felly dwi wedi bod yn lwcus iawn."

Mae Rhys eisoes wedi datgan ei werthfawrogiad am y gofal a gafodd yn ystod y cyfnod yn y wasg, gan annog unrhyw un sy'n profi symptomau tebyg i fynd at eu meddyg yn syth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.