Protestiadau treisgar wedi 'troi yn derfysgaeth'
Mae cyn bennaeth plismona gwrth-derfysgaeth wedi dweud bod protestiadau treisgar diweddar yn y DU wedi "troi yn derfysgaeth."
Dywedodd Neil Basu wrth y BBC bod y "gweithredoedd difrifol o drais" yn achosi ofn o fewn cymunedau.
Ychwanegodd "y dylai pobl yn edrych yn agos iawn" ar ddiffiniad terfysgaeth wrth ystyried y trais sydd wedi ei weld ar y strydoedd dros y dyddiau diwethaf.
Ers wythnos mae protestiadau treisgar wedi cael eu cynnal ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fe ddechreuodd y protestiadau ar ôl i dair o ferched gael eu llofruddio yn Southport.
Nos Lun cafodd nifer o swyddogion yr heddlu eu hanafu yn Plymouth yn ne Lloegr.
Cafodd briciau a thân gwyllt eu taflu tuag at swyddogion y llu.
Erbyn hyn mae mwy na 370 o bobl wedi cael eu harestio am eu rhan yn y protestiadau.
Yn Southport, fe aeth cannoedd o bobl i wylnos heddychlon wythnos ar ôl llofruddiaethau Bebe King, Elsie Dot Stancombe ac Alice Dasilva Aguiar.
Mae'r heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud eu bod wedi "delio gydag anhrefn" yn ne Belfast nos Lun.
Yn ôl adroddiadau'r BBC cafodd cerrig a bomiau petrol eu taflu tuag at swyddogion y llu.
Mae rhai gwleidyddion wedi dweud y dylid galw Aelodau Seneddol yn ôl i Dŷ'r Cyffredin er mwyn trafod y sefyllfa. Ond mae'r Prif Weinidog wedi gwrthod gwneud hynny hyd yn hyn.
Llun: PA