Newyddion S4C

Llywodraeth rhy araf yn ymateb i brotestiadau treisgar medd Cleverly

05/08/2024
Anhrefn treisgar Rotherham

Mae ysgrifennydd cartref yr wrthblaid wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Prydain fod wedi gwneud "penderfyniadau allweddol" yn gynt er mwyn delio gyda'r protestiadau treisgar sydd wedi digwydd ar draws Lloegr.

Yn ôl James Cleverly dylai'r cyfarfod Cobra sydd wedi digwydd fore Llun fod wedi cael ei gynnal cyn hyn.

Pwyllgor ymateb brys yw cyfarfodydd Cobra (CABINET OFFICE BRIEFING ROOM A) ble mae gweinidogion, gweision sifil, yr heddlu a swyddogion cudd-wybodaeth yn dod at ei gilydd i drafod y sefyllfa a'r ymateb.

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol wedi dweud wrth y BBC y dylai fod wedi digwydd yn gynt am fod yna "benderfyniadau gweithredol" angen eu gwneud er mwyn cefnogi'r heddluoedd.

Dros y penwythnos cafodd mwy na 150 o bobl eu harestio mewn trefi a dinasoedd.

Fe wnaeth rhai ymosod ar westy sy'n gartref i geiswyr lloches yn Rotherham. Mae'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer wedi condemnio hyn ac  wedi dweud y bydd y rhai oedd yn gyfrifol yn wynebu “grym llawn y gyfraith”.

Mae rhai gwleidyddion wedi galw ar Aelodau Seneddol i gael eu galw yn ôl i Dŷ'r Cyffredin er mwyn trafod y sefyllfa. Yn eu plith mae Priti Patel, Nigel Farage a Diane Abbott.

Yn gynharach fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper nad oes yna fwriad i wneud hyn "ar hyn o bryd".

Ddydd Sul fe ymatebodd yr heddlu i brotestiadau treisgar yn Rotherham, Middlesbrough, Bolton a rhannau eraill o Loegr.

Yn Rotherham, cafodd o leiaf 10 o swyddogion heddlu eu hanafu ac un yn anymwybodol ar ôl i brotestwyr daflu darnau o bren at swyddogion.

Fe dorrodd rhai ffenestri i gael mynediad i'r Holiday Inn Express ac fe roddwyd bin mawr ar dân.

Cafodd y cyfarfod Cobra ei gynnal ar ôl chwe diwrnod o drais cynyddol. Fe ddechreuodd y protestiadau ar ôl i dair merch ifanc farw mewn ymosodiad yn Southport yr wythnos ddiwethaf.

Llun: Danny Lawson/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.