Amy Dowden: 'Balch o ba mor bell rydw i wedi dod'
Mae’r ddawnswraig o raglen Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi dweud ei bod yn “falch iawn o ba mor bell” y mae hi wedi dod wrth iddi wella ar ôl cael ail mastectomi.
Cafodd y ddawnswraig o Gaerffili, sy’n 35 oed, ddiagnosis o ganser y fron yn 2023, ac wedi hynny mae wedi derbyn triniaeth cemotherapi a mastectomi.
Dywedodd ym mis Tachwedd y byddai’n cael mastectomi arall, gan ddweud mewn neges ar Instagram nad oedd wedi derbyn diagnosis canser newydd.
Nos Wener, fe wnaeth Ms Dowden ymddangos ar raglen Stand Up To Cancer ar Channel 4, a hynny wedi iddi siarad ar y rhaglen tra'r oedd yng nghanol ei thriniaeth yn 2023.
"Ddwy flynedd yn ôl, roedd stori hollol wahanol pan oeddwn i yma ddiwethaf," meddai.
"Doedd gen i ddim gwallt, doeddwn i ddim hyd yn oed yn adnabod fy hun, mewn gwirionedd, ond rwy’n falch iawn o ba mor bell rydw i wedi dod.
"Ar y pryd, roeddwn i’n mynd drwy’r daith anoddaf yn fy mywyd. Mae diagnosis canser yn eich newid am byth. Rwy’n dal i gael pigiadau misol yn yr uned oncoleg.
"Rwyf wedi cael fy rhoi drwy’r menopos oherwydd fy nghanser, sy’n cael ei yrru gan hormonau."
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn gwybod a fydd gen i fyth y fraint o allu dod yn fam, rhywbeth rydw i wir eisiau gallu ei wneud.
"Bum wythnos yn ôl, cefais mastectomi arall, felly nid wyf bellach yn teimlo cysylltiad emosiynol â’m corff, ond rwy’n falch iawn o ba mor bell mae wedi dod, ac rwy’n hynod ddiolchgar am gyfle arall at fywyd.
"Mae diagnosis canser yn eich newid am byth. Nid fi yw’r person oeddwn i, ac nid drwy ddewis y daeth hynny."
'Ofnus'
Ar ôl colli'r cyfle i ddawnsio ar Strictly Come Dancing yn 2023 oherwydd ei thriniaeth, mae Ms Dowden bellach wedi dychwelyd i’r gyfres.
Ym mis Chwefror 2024 fe wnaeth hi gadarnhau nad oedd "unrhyw dystiolaeth o glefyd" yn dilyn ei gwiriad iechyd diweddaraf.
"Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n dychwelyd i’r llawr dawnsio. Doeddwn i ddim yn gweld sut oeddwn i’n mynd i gael Amy yn ôl," meddai.
"Roeddwn i’n casáu’r ffordd roeddwn i’n edrych. Doedd gen i ddim egni, ac roeddwn i’n ofnus.
"Roeddwn i’n arfer crio fy hun i gysgu. Byddai fy ngŵr yn fy nghlywed i’n crio yn y gawod.
"Roeddwn i’n hiraethu am yr hen Amy, ac rwy’n gwybod na fydda i byth, byth yn ei chael hi’n ôl."
Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.