BBC yn dechrau tynnu lluniau o Huw Edwards o'i archif
Mae’r BBC wedi dechrau ar y broses o dynnu lluniau sydd yn cynnwys Huw Edwards o’i archif, ar ôl i’r cyn-ddarlledwr bledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Mae rhaglenni teulu ac adloniant sydd yn cynnwys y cyn-ddarlledwr wedi eu tynnu oddi ar iPlayer, yn ôl adroddiad yn yr Observer.
Mae hynny yn cynnwys un rhifyn o Dr Who o 2016, ble mae llais Mr Edwards i’w glywed fel rhan o adroddiad newyddion BBC.
Mae rhifyn o’r gyfres coginio Great British Menu hefyd wedi ei dynnu oddi ar y gwasanaeth ar-alw.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Fel y byddwch yn disgwyl, rydym yn y broses o ystyried argaeledd ein harchif.
“Er nad ydym yn arfer dileu cynnwys o archif y BBC gan ei fod yn fater o gofnod hanesyddol, rydym yn ystyried y defnydd ac ail-ddefnydd o’r deunydd yma fesul achos.”
Fe wnaeth Edwards, 62 oed, adael y BBC fis Ebrill ar sail cyngor meddygol.
Ddydd Mercher, fe wnaeth y cyn-gyflwynydd News at 10 bledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Roedd wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.
Ddydd Gwener, cafodd murlun o Edwards yn Llangennech hefyd ei ddileu gan yr artist a’i greodd.
Cwynion
Mae adroddiadau yn y Sunday Times hefyd wedi datgelu bod dynes a wnaeth ddwy cwyn am Edwards yn derbyn therapi wedi ei dalu gan y BBC.
Roedd aelod o’r cyhoedd o’r enw Rachel, wedi datblygu cyfeillgarwch gydag Edwards yn 2018 dros y cyfryngau cymdeithasol.
Yn 2021, cwynodd am Edwards, gan honni fod y berthynas wedi troi’n wenwynig, gan gynnwys rhannu rhai o’r negeseuon rhyngddynt. Yn eu plith roedd rhai lluniau o natur rywiol yr oedd wedi eu hanfon i Edwards.
Cwynodd amdano eto’r flwyddyn ganlynol, ar ôl iddi hi ofyn i Edwards ddwywaith i beidio â chysylltu gyda hi eto.
Fe wnaeth dynnu’r cwynion yn ôl yn ddiweddarach, ond fe gytunodd y BBC i dalu am therapi i’r ddynes, ar sail arafwch ymdriniaeth ei chwyn.
Fe wnaeth y gorfforaeth rybuddio Edwards am ei ymddygiad ar-lein, gan hefyd rybuddio iddo i stopio cysylltu gyda’r ddynes. Ond yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth barhau i anfon negeseuon ati hi.
Dywedodd y BBC ei fod bob amser yn ymchwilio’n llawn i gwynion ac yn cynnig cefnogaeth.