Dileu murlun a thynnu plac Huw Edwards yn Llangennech a Chaerdydd
Mae murlun o Huw Edwards wedi ei ddileu yn Llangennech gan yr artist a’i greodd.
Mae plac oedd yn cynnwys enw y darlledwr hefyd wedi ei dynnu oddi yno yng Nghastell Caerdydd.
Plediodd cyn-gyflwynydd y BBC yn euog yn Llys Ynadon San Steffan ddydd Mercher i dri chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant.
Roedd y portread, a oedd yn rhan o furlun mwy, ar y danffordd yn y pentref ger Llanelli lle y cafodd Huw Edwards ei fagu.
Cafodd ei ddadorchuddio gyntaf yn 2023 fel rhan o furlun mwy y treuliodd yr artist Steve Jenkins flwyddyn yn ei baentio.
Cadarnhaodd bod y portread o Edwards wedi'i ddileu yn sgil ei droseddau, gan ddweud mai dyna'r "peth iawn i'w wneud".
Roedd Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp ac fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau.
Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.
Mae Huw Edwards wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar 16 Medi.