Newyddion S4C

Angen 'cyfleoedd amgen' i bobl ifanc ym maes cerdd a drama

30/07/2024
Delyth Jewell a'r Coleg Brenhinol o Gerddoriaeth a Drama

Mae un o bwyllgorau Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "greu cyfleoedd amgen" i bobl ifanc ym maes cerdd a drama.

Mae'r alwad gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd yn dilyn penderfyniad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gau rhaglenni cerdd a drama ar y penwythnos ar gyfer pobl ifanc.

Fel rhan o'r alwad, mae'r pwyllgor wedi galw ar y Llywodraeth i “wneud popeth o fewn ei gallu i greu cyfleoedd amgen ym maes cerdd a drama”. Maent hefyd yn dweud bod angen “sicrhau llwybrau cynaliadwy i mewn i hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon yn "rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles" ond bod rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau "anodd iawn" ynghylch cyllidebau.

Daw'r cyhoeddiad wythnosau'n unig ar ôl i gerddorion Opera Cenedlaethol Cymru bleidleisio i fynd ar streic yn sgil anghydfod dros gyflogau.

'Colled enfawr'

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd, bod y penderfyniad i gau'r rhaglenni yn "siom fawr".

“Mae’r cyrsiau hyn wedi bod yn gonglfaen i addysg gelfyddydol, gan chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein talent ifanc. Mae cau’r ddau gwrs yn golled enfawr i fyfyrwyr ac i’n tirwedd ddiwylliannol," meddai.

“Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn wynebu heriau ariannol difrifol ac mae cynnal cynlluniau fel hyn yn hynod anodd. 

“Fodd bynnag, rydym yn bryderus ynghylch pa mor sydyn y cafodd y penderfyniad i gau’r cyrsiau ei wneud. Mae’n gadael bwlch sylweddol mewn addysg cerdd a drama ac yn creu ansicrwydd i’r staff, y myfyrwyr a’r teuluoedd yr effeithir arnynt.”

Ychwanegodd: “Rhaid i’n pobl ifanc beidio â bod o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt.”

Dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd y byddai'n parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar gyllid yn y meysydd hyn cyn cylch nesaf y gyllideb. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. 

"Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.

"Gyda buddsoddiad o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025, mae ein Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn sicrhau bod pob person ifanc 3-16 oed yn gallu cael mynediad at weithgareddau cerddoriaeth, gan gynnwys hyfforddiant offerynnau a llais.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.