Cerddorion Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio i fynd ar streic dros gyflogau
Mae cerddorion Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio i fynd ar streic yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau gweithio.
Dywedodd Undeb y Cerddorion fod 81% o'i haelodau yn cefnogi streiciau, gyda 96% yn cefnogi mathau eraill o weithredu diwydiannol.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn honiadau bod cynlluniau i wneud y gerddorfa’n rhan amser, yn ogystal â thorri cyflogau cerddorion 15%.
Dywedodd yr undeb fod toriadau ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi gorfodi rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru i ystyried y newidiadau.
Bydd yn rhaid i Opera Cenedlaethol Cymru hefyd lleihau'r nifer o berfformiadau mewn mannau eraill o ganlyniad i'r toriadau ariannol.
Byddai newidiadau o'r fath yn peryglu dyfodol opera o safon uchel mewn trefi a dinasoedd fel Llandudno a Bryste, meddai'r undeb.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru eisoes wedi canslo perfformiadau yn Llandudno a Chaerdydd yn 2025 oherwydd "heriau ariannol cynyddol".
'Angen mwy o gefnogaeth'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Naomi Pohl: “Nid yw ein haelodau’n cymryd pleidleisio ar gyfer gweithredu diwydiannol posibl yn ysgafn.
“Rydym bob amser eisiau osgoi streic lawn os yn bosibl, ac mae angen i reolwyr Opera Cenedlaethol Cymru weithio gyda ni i ystyried cynigion amgen a dilyn datrysiad ariannol priodol a fydd yn galluogi Opera Cenedlaethol Cymru i barhau i fod yn gwmni llawn amser.”
Ychwanegodd: “Gallai’r toriadau hyn gael eu hosgoi gyda mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr neu gyfuniad o’r tri.”
Dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru: “Tra ein bod yn parchu penderfyniad y balot a drefnwyd gan Undeb y Cerddorion sy’n cynrychioli aelodau cerddorfa OCC, rydym yn siomedig y byddai hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pen draw oherwydd yr effaith ar berfformiadau a chyngherddau.
“Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau ein cerddorfa tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol OCC yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid cyhoeddus.
"Ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”